02 Rhag 2025
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cymryd cam mawr arall tuag at gwblhau'r gwaith o drydaneiddio llinellau Cymoedd De Cymru, wrth i'r gwifrau uwchben ar hyd rheilffordd Rhymni gael eu troi ymlaen.
Mae'r cam mawr hwn yn y gwaith o drydaneiddio rhwydwaith Metro De Cymru yn dilyn cwblhau'r gwaith peirianneg ar 25km o bellter rhwng Caerffili a Rhymni. Disgwylir i'r rhan olaf o’r gwaith ar hyd lein Bae Caerdydd gael ei drydaneiddio yn gynnar yn 2026.
Drwy drydaneiddio y rhan uchaf o lein Rhymni gall TrC ddechrau rhoi trenau tri-modd ar waith (trenau trydan, diesel a batri) a fydd yn cymryd lle’r hen drenau diesel sydd ar waith ar hyn o bryd ar hyd y lein.
Dywedodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith Trafnidiaeth Cymru:
"Mae trydaneiddio lein Rhymni Uchaf wedi'i wneud yn bosibl gan wyth mis o waith caled gan ein timau seilwaith, gan gynnwys gosod 903 o strwythurau dur sy'n dal dros 33km o wifrau uwchben a gosod 30km o gebl foltedd uchel. Hoffwn ddiolch i'n timau am weithio 24 awr i gyflawni'r rhan eithriadol bwysig hon o'r prosiect."
"Hoffem hefyd ddiolch i'n cymunedau lleol am eu hamynedd wrth i'r gwaith trawsnewid hwn gael ei wneud bob awr o’r dydd a'r nos, yn ogystal ag yn ystod cyfnod o gau'r lein yn ystod gwyliau'r Pasg a thros yr Haf."
Gan fod trydaneiddio lein Rhymni yn garreg filltir arall i brosiect Metro De Cymru, hoffai TrC atgoffa'r cyhoedd bod tresmasu ar y rheilffordd yn anghyfreithlon a chanddo risgiau difrifol, yn enwedig ar linellau sydd wedi’i trydaneiddio. Mae'r llinellau pŵer uwchben yn cludo 25,000 folt a phetai rhywun yn dod i gyswllt a hwy, 9 gwaith allan o 10, byddai’n achosi marwolaeth.
Gyda chymorth ei Ymgyrch diogelwch Dim Ail Gyfle, mae TrC yn parhau i dynnu sylw at y risgiau o dresmasu ymysg phobl ifanc ar draws y Cymoedd. Gyda chymorth ei ddarparwr addysg Bollo, erbyn diwedd 2025, bydd dros 42,000 o ddisgyblion wedi mynychu sesiwn ar ddiogelwch rheilffyrdd.
Mae TrC hefyd yn annog y cyhoedd i barhau i fod yn wyliadwrus oherwydd cynnydd diweddar yn nifer yr achosion o ddwyn ceblau sy'n digwydd ar hyd lein Rhymni. Er bod patrolau diogelwch mwy llym bellach ar waith, dylid rhoi gwybod am unrhyw weithgaredd amheus, gan gynnwys unrhyw un sy'n ceisio cael mynediad i'r rheilffordd a chysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar 0800 40 50 40 neu anfon neges destun at 61016. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Nodiadau i olygyddion
- Er mwyn caniatáu i TrC brofi'r Offer Llinell Uwchben (OLE) sydd newydd ei osod, bydd lein Rhymni ar gau rhwng Rhymni a gorsaf Caerdydd Heol y Frenhines ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr a dydd Sul 7 Rhagfyr. Yn ystod y cyfnod pan fydd y lein ar gau, bydd pob gorsaf reilffordd, pont troed rheilffordd, a chroesfannau rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerffili ar gau.
- Bydd gwasanaeth bws yn lle trên ar waith yn ystod y cyfnod.
- Er mwyn osgoi traffig siopa Nadolig yng nghanol y ddinas, ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr, bydd TrC yn darparu gwasanaeth bws rhwng Caerdydd Canolog a Bargoed (ddim yn galw yn Heol y Frenhines Caerdydd) a rhwng gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd a Rhymni.
- Ddydd Sul 7 Rhagfyr, bydd gwasanaethau rheilffyrdd yn gadael Caerdydd Canolog fel arfer, gan alw yng ngorsaf Heol y Frenhines Caerdydd.
Mae TrC yn annog pob teithiwr sy'n teithio rhwng Rhymni a Chaerdydd i Wirio cyn teithio