29 Hyd 2019
MAE Trafnidiaeth Cymru yn dyblu faint o ddata am ddim mae ein cwsmeriaid yn ei gael ar ein trenau o 25mb i 50mb.
Bydd y cynnydd ar gael o 1 Tachwedd a bydd yn golygu fod cwsmeriaid sy'n teithio ar ein trenau yn cael cysylltiad cyflymach am gyfnodau hirach.
Mae'r buddsoddiad hwn yn mynd law yn llaw ag ymrwymiad Trafnidiaeth Cymru i fuddsoddi £40 miliwn ar adnewyddu ein fflyd bresennol o drenau a gosod socedi plygiau a mannau gwefru USB.
Gan fod mwy o wasanaethau nag erioed yn rhedeg ar rwydweithiau Cymru a'r Gororau a Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd, mae'n bwysicach nag erioed bod pobl yn cadw mewn cysylltiad. Bydd y newid yn golygu bod cwsmeriaid yn gallu anfon rhagor o negeseuon e-bost, cadw golwg ar y cyfryngau cymdeithasol, dilyn y newyddion diweddaraf a chadw golwg ar fanylion eu taith mewn amser real.
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru: "Rydyn ni'n gwybod nad yw technoleg yn aros yn ei hunfan felly mae'n rhaid i ni barhau i ystyried beth rydyn ni'n ei gynnig i'n cwsmeriaid a cheisio ei wella lle bynnag y gallwn ni.
"Yn gynyddol, mae pobl angen bod ar-lein wrth deithio a bydd hyn yn rhoi'r hyder i'n cwsmeriaid wybod eu bod nhw'n gallu defnyddio ein gwasanaethau i weithio neu bori'r we am gyfnodau hirach.
"Rydyn ni yn y broses o osod plygiau tri phin a socedi USB ar y trenau hefyd fel na fydd angen i'n cwsmeriaid boeni am fatris i'w dyfeisiau."
Ar ôl i'ch data am ddim ddod i ben, gallwch ddal i gysylltu â'r we ar gyflymder is am weddill eich taith.
Cyflwynwyd WiFi am ddim ar rwydwaith Cymru a'r Gororau am y tro cyntaf ar ddechrau 2018 o ganlyniad i fuddsoddiad o £1.5 miliwn yn y fflyd gan Lywodraeth Cymru. Ers hynny mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y defnydd gyda chwsmeriaid yn manteisio ar y cynnig.
(Tu mewn i drên dosbarth 153 are ei newydd wedd, gyda socedi plygiau ac USB wedi'u gosod)
Nodiadau i olygyddion
Nodyn i'r golygydd: Rydyn ni wrthi'n cyflwyno nifer o drenau ychwanegol i'n rhwydwaith a bydd angen gosod technoleg ar rai o'r rhain er mwyn cynnig darpariaeth WiFi am ddim lawn