22 Awst 2022
Ddydd Sul, 28 Awst, bydd Carnifal Trebiwt yn cychwyn am 12yp gyda gorymdaith liwgar o Sgwâr Loudoun tuag at y Senedd, gyda deuddydd o berfformiadau diwylliannol a hwyl i'r teulu cyfan ar lannau Bae Caerdydd i ddilyn.
Mae’r carnifal yn dyddio’n ôl i’r 1960au ac mae ganddo bwysigrwydd diwylliannol a hanesyddol enfawr yng nghymuned leol Trebiwt. Mae ganddo hanes hynod liwgar ac mae bellach yn ganolbwynt diwylliant pobl Dduon De Cymru. Dyma’r dathliad mwyaf a disgleiriaf o amrywiaeth yng Nghymru.
Rydyn ni’n cynnal stondin yn y carnifal lle gall aelodau’r cyhoedd ddod draw i siarad â ni am gynlluniau cyffrous ardal Trebiwt a’r Bae, gan gynnwys ein cynlluniau ar gyfer gorsaf newydd Trebiwt a gwaith thrawsnewid Llinell y Bae.
Mae’r tîm Rhanddeiliaid wedi bod yn brysur yn cwrdd â busnesau lleol yn ogystal ag ymgysylltu â thrigolion ardal Trebiwt a Bae Caerdydd. Rydym hefyd wedi lansio adran newydd ar ein gwefan sy'n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau lle gellir ymgysylltu a chymunedau a rhanddeiliaid a drefnir gan Trafnidiaeth Cymru a’n partneriaid. Gallwch ddarllen y dudalen hon yma lle gallwch ddarganfod mwy am y cyfleoedd i ymgysylltu gyda ein cymunedau ledled Cymru.