13 Mai 2026
Priodferch yn teithio i'w phriodas ar y trên ar Fetro De Cymru
Daeth moment o lawenydd i ran Metro De Cymru ddydd Sadwrn wrth i briodferch - Bethan - a'i pharti priodas - deithio ar y Trên Cariad o Lwynbedw i Benarth ar gyfer ei phriodas ym Mhafiliwn Pier Penarth.
Mae Bethan a'i gŵr Chris yn defnyddio lein Coryton ers amser maith ac wrth gynllunio eu priodas, penderfynodd y cwpl nad oedd ffordd well o ddechrau'r dathliadau na thrwy gynnwys y gwasanaeth trên y maen nhw'n ei ddefnyddio mor aml yn eu diwrnod mawr.
Mae'r cwpl yn dweud bod y penderfyniad wedi'i ysbrydoli gan y gwelliannau sylweddol a wnaed ar draws y rhwydwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf a dibynadwyedd lein Coryton.
Dywedodd Bethan: “Ers dechrau ein perthynas, rydym wedi mwynhau defnyddio lein Coryton -mae yn ffordd wych o gyrraedd Penarth yn gyflym, gyda'i bromenâd hardd a chymaint o fwytai gwych yno.
“Roedd gwneud y penderfyniad i ddefnyddio un o'r trenau trydan, newydd, hyfryd i gyrraedd ein priodas yn un o'r rhai cyntaf a wnaethom. Cafodd ein gwesteion eu synnu'n fawr pan glywsant am fy mwriad, ond fe wnaeth Trafnidiaeth Cymru'r diwrnod yn arbennig iawn, felly cafodd y parti priodas amser wrth eu bodd ac fe gyrhaeddais y seremoni mewn digon o bryd!”
Ychwanegodd Chris: “Diolch am gludo Bethan i'r seremoni. Am un diwrnod yn unig, 'Transport for Veils'!”
Roedd cyd-deithwyr a chydweithwyr Trafnidiaeth Cymru yn llongyfarch y grŵp wrth iddynt deithio i Benarth ar y trên Dosbarth 756 newydd sbon.
Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Gweithredu Trafnidiaeth Cymru:
“Rydym wrth ein bodd bod Bethan a Chris wedi dewis teithio ar Metro De Cymru a'i wneud yn rhan o'u diwrnod priodas. Fel defnyddwyr rheolaidd lein Coryton, mae eu taith yn ein hatgoffa o sut mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cysylltu pobl â'r hyn sy'n bwysig.
“Hoffem eu llongyfarch ar eu priodas ac rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan fach yn eu dathliadau.”
Mae cyflwyno'r trenau tri-dull Dosbarth 756 newydd sbon ar y leiniau rhwng Coryton a Chaerffili a Phenarth yn gam mawr ymlaen ym mhrosiect Metro De Cymru. Mae mwy o le arnynt, maent yn fwy cyffyrddus ac mae'r mynediad o'r trên i'r platfform yn llawer gwell hefyd.