Skip to main content

Safety warning as first Overhead Line Equipment for Metro goes live

31 Mai 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn rhybuddio bod tresmasu ar reilffyrdd yn Ne Cymru yn fwy peryglus nawr nag erioed o'r blaen.

Mae'r risg o farwolaeth neu anaf difrifol i'r rhai sy'n parhau i dresmasu ar y rhwydwaith rheilffyrdd wedi cynyddu'n sylweddol yn sgil gosod Cyfarpar Llinellau Uwchben (OLE) ‘byw’ ar gyfer Metro De Cymru sy'n 25,000 folt – 100 gwaith yn fwy pwerus na thrydan cartref safonol.

Mewn 9 gwaith allan o ddeg o achosion, gall cyffwrdd ag OLE fod ladd ac mae'r gwres a gynhyrchir yn sgil y sioc o 25,000 yn cyrraedd tymereddau sy’n uwch na 3,000 gradd Selsiws.

Yn 2022, cofnodwyd dros 1,000 o achosion o dresmasu ar Reilffyrdd Llinellau Craidd y Cymoedd yn unig, a allai fod wedi bod yn angheuol pe bai pŵer yn rhedeg ar hyd yr OLE.

Dywedodd Lois Park, Pennaeth Ymgysylltu â'r Gymuned a Rhanddeiliaid TrC: “Mae'r rhan gyntaf o drydaneiddio’r OLE yn garreg filltir arwyddocaol arall ar gyfer prosiect Metro De Cymru, ond mae'n creu risgiau sylweddol i'r rhai sy'n tresmasu ar y rhwydwaith.

“Mae'r system OLE wedi'i chynllunio i gadw pobl yn ddiogel a chyn belled â bod pawb yn parchu ffin y rheilffordd a ddim yn tresmasu ar y rheilffordd, byddant yn ddiogel.  Ond i'r rheini sydd heb gael eu dal yn tresmasu ar y llinellau yn y gorffennol, mae'r risg o anaf difrifol a marwolaeth yn sylweddol uwch.

“Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd holl Linellau Craidd y Cymoedd yn cael eu trydaneiddio fel y gall TrC redeg ei drenau newydd sbon, felly rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau i wneud pawb yn ymwybodol o'r perygl.

“Dylai pobl gadw pellter o leiaf 2.75m o OLE bob amser gan nad oes raid i chi ei gyffwrdd yn uniongyrchol i gael eich trydaneiddio.  Hefyd, dylech gymryd gofal ychwanegol gyda gwrthrychau fel ymbarél, balwnau heliwm neu wialen bysgota.”

Mae TrC wedi bod yn gwella diogelwch o amgylch y rhwydwaith trwy godi ffensys ychwanegol ac ymestyn rhwystrau diogelwch ar bontydd.

Ond bu nifer o ddigwyddiadau o ddwyn cebl a difrod yn ystod y misoedd diwethaf, sydd wedi arwain at ddifrod difrifol i offer a gwasanaethau yn cael eu amharu.

Ym mis Chwefror fe darodd un o'n trenau cwsmeriaid oedd yn wag ar y pryd geblau wedi'u difrodi ger gorsaf Llandaf yn dilyn ymgais i'w dwyn, gan arwain at oedi am sawl awr a chanslo gwasanaethau i Gaerdydd.

BTP quote

Gallai unrhyw un sy'n cael ei ddal yn tresmasu ar y rhwydwaith rheilffyrdd gael ei ddwyn gerbon llys a derbyn dirwy o hyd at £1,000.

Gallwch helpu drwy roi gwybod am ymddygiad amheus ar y cledrau i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig:

  • Ffoniwch 0800 40 50 40
  • Neges Testun 61016
  • Mewn argyfwng ffoniwch 999
  • Neu gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.