Skip to main content

Red Extreme Heat Warning

25 Meh 2026

Cyngor Teithio i deithwyr. Datganiad ar y cyd gan Trafnidiaeth Cymru a Network Rail. 

Mae rhybudd coch am wres eithafol ar waith ar hyn o bryd ar draws rhannau o Ganolbarth Lloegr, De Cymru a De Lloegr tan 21:00 ddydd Iau 25 Mehefin. Yn ogystal, mae rhybuddion Ambr pellach wedi'u cyhoeddi ar gyfer dydd Gwener 26 a dydd Sadwrn 27 Mehefin.

Rydym yn cynghori teithwyr sy'n teithio i mewn i'r ardal rhybudd coch, drwyddi neu allan ohoni ddydd Iau 25 Mehefin i deithio dim ond os yw'n gwbl angenrheidiol. Rydym hefyd yn cynghori teithwyr i deithio dim ond os oes angen i, o neu o fewn ardaloedd rhybudd ambr ddydd Gwener 26 Mehefin.

Cynghorir teithwyr sy’n teithio ar draws gweddill y rhwydwaith i wirio cyn teithio.  

Gallai'r tymheredd gyrraedd hyd at 38°C, sy'n debygol o achosi tarfu sylweddol i wasanaethau trenau, gyda newidiadau i'r gwasanaethau bellach ar waith. Gall gwres eithafol effeithio ar draciau, llinellau pŵer uwchben a threnau, sy'n golygu y gall gwasanaethau gael eu gohirio neu eu canslo ar fyr rybudd, neu gallant gymryd mwy o amser nag arfer oherwydd cyfyngiadau cyflymder.  

Gwiriwch eich taith cyn cychwyn gan ddefnyddio ein map byw, ap neu wefan. Caniatewch amser ychwanegol gan y gall teithiau gymryd mwy o amser nag arfer a chofiwch ddod a photel o ddŵr gyda chi ag yfed digon o ddŵr hefyd. Os ydych chi'n teimlo'n sâl, gofynnwch am gymorth gan staff ar y trên neu staff yr orsaf. 

Disgwylir i wasanaethau cyrchfannau arfordirol fod yn brysur iawn, bydd systemau ciwio ar waith mewn gorsafoedd allweddol.

Os nad ydych chi am deithio mwyach ddydd Iau 25 Mehefin na dydd Gwener 26 Mehefin, gellir defnyddio'ch tocyn ar unrhyw ddiwrnod hyd at a chan gynnwys dydd Mawrth 30 Mehefin 2026. Os dewiswch beidio â theithio, mae'r tocynnau hyn yn gymwys i ad-daliad llawn o'r pwynt prynu. Efallai y byddwch hefyd yn teithio cyn eich amser teithio a drefnwyd ar y dyddiadau hyn. 

Am wybodaeth ddiweddaraf, ewch i: http://trc.cymru/cynllunio-taith  // http://livemap.tfw.wales/#/aw_cy/mapview

Nodiadau i olygyddion


  • Os yw teithwyr yn dewis peidio â theithio, mae'r tocynnau hyn yn gymwys i ad-daliad llawn o'r pwynt prynu

Llwytho i Lawr