Skip to main content

Transport for Wales boss reconfirms commitment to rebuild crossing at Ty’n-y-Graig Bridge

23 Meh 2020

Mae Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, James Price, wedi canmol y gweithlu am ddymchwel pont droed a oedd wedi cael ei difrodi yn Llanbradach ac am wneud hynny’n ddiogel.

Mae TrC wedi ymrwymo i adfer y groesfan cyn gynted ag y gallant ond ni allant eto roi amserlen fanwl ar gyfer y gwaith oherwydd yr heriau a gyflwynir gan Covid-19. Mae'r pandemig nid yn unig wedi newid y ffordd y mae timau TrC yn gweithio ond mae hefyd wedi effeithio ar y gadwyn gyflenwi a'r amseroedd arweiniol ar gyfer deunyddiau. Mae adeiladu pont nodweddiadol ar reilffyrdd yn cynnwys sawl cam, gan gynnwys ymgynghoriadau, ymchwiliadau safle, dylunio rhagarweiniol a manwl, caffael deunyddiau, gwneuthuriad, gwaith galluogi ac, yn olaf, gosod. Bydd angen i TrC nawr ystyried sut y cyflenwir hyn i gyd yng nghyd-destun coronafeirws mor ddiogel ac mor gyflym â phosibl.

Roedd Trafnidiaeth Cymru ac Alun Griffiths Ltd wedi cydweithio bob awr o’r dydd i ailagor Rheilffordd Rhymni drwy ddymchwel y bont ddiwedd mis diwethaf.

Roedd pont droed Ty’n-y-Graig, a oedd yn croesi’r rheilffordd ac is-ffordd, wedi cael ei difrodi’n ddrwg iawn pan gafodd ei tharo gan gerbyd ffordd ar 28 Mai. Nid oedd trenau’n gallu rhedeg o dan y bont, felly fe aeth TrC a Griffiths ati ar unwaith i wneud y strwythur yn ddiogel a pharatoi i’w ddymchwel.

Cafodd y bont ei dymchwel dros nos a hynny ar nos Wener 29 Mai, ac roedd hynny’n golygu bod y trenau wedi gallu dechrau rhedeg yn gynt na’r disgwyl ar fore dydd Sadwrn 30 Mai.
Cafodd rhagor o waith ei wneud dros nos ar nos Sul 31 Mai i gwblhau’r gwaith, gan gynnwys cael gwared â grisiau’r bont a dymchwel y parapetau a oedd ar ôl.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Ar ran pawb yn TrC, hoffwn ddiolch i’n tîm seilwaith a’n cydweithwyr yn Griffiths am eu gwaith caled i sicrhau bod pont droed Ty’n-y-Graig yn cael ei dymchwel yn ddiogel. Mae’n enghraifft arall o’n hymrwymiad i gydweithio â’n partneriaid i Gadw Cymru i Symud.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’n cwsmeriaid ac i gymuned Llanbradach am eu hamynedd a’u dealltwriaeth tra’r oedd y gwaith yn cael ei wneud ar y bont. Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod hwn yn gyfleuster hanesyddol a oedd yn cael ei ddefnyddio gan aelodau o’r gymuned i gyrraedd coetir lleol, ac rydym eisoes wedi dechrau edrych ar opsiynau ar gyfer gosod lle croesi newydd.”

Nodiadau i olygyddion


Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog pawb sy’n gyrru lorïau i sicrhau eu bod yn gwybod pa mor uchel yw eu cerbydau cyn unrhyw daith a sicrhau nad oes pontydd isel ar eu llwybrau teithio.

Mae taro pontydd yn gallu arwain at oedi i deithwyr trenau ac yn gallu costio miloedd o bunnoedd i drethdalwyr drwy ddifrod ac oedi.

Ar gyfartaledd mae Network Rail yn dweud bod 5 pont yn cael eu taro bob dydd. Mae hyn yn gallu bod cyn uched â 10 pont yn cael eu taro bob dydd ar adegau penodol o’r flwyddyn fel y cyfnod cyn y Nadolig. Er mwyn lleihau pa mor aml mae hyn yn digwydd mae Network Rail wrthi’n ceisio newid ymddygiad gyrwyr a gweithredwyr drwy ymgyrch sy’n canolbwyntio ar Addysg, Peirianneg, Galluogi a Gorfodi.

Llwytho i Lawr