Skip to main content

Transport for London Managing Director joins Transport for Wales as Non-Exec Director

01 Tach 2019

Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd Vernon Everitt, Rheolwr Gyfarwyddwr Transport for London (TfL), yn ymuno â thîm Trafnidiaeth Cymru fel Cyfarwyddwyr Anweithredol.

Mae Vernon wedi bod yn gweithio gyda TfL ers dros 12 mlynedd, lle mae’n Reolwr Gyfarwyddwr ar gyfer Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Thechnoleg, ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro ar gyfer London Underground a TfL Engineering.

Yn TfL, mae’n gyfrifol am strategaethau technoleg/data a chwsmeriaid, a rhoi’r rheini ar waith. Gan ganolbwyntio ar roi'r cwsmer wrth wraidd gweithrediadau, mae’n gyfrifol am weithrediadau talu a phrisiau, canolfannau cyswllt, gwybodaeth i gwsmeriaid, dealltwriaeth o gwsmeriaid a marchnata, cysylltiadau cyfryngau, materion cyhoeddus, rheoli’r galw am deithio a chynllunio dinesig.

Fel sefydliad newydd sy’n esblygu, bydd Trafnidiaeth Cymru yn elwa o wybodaeth a phrofiad helaeth Vernon yn y diwydiant, ac mae’n amlwg bod tebygrwydd rhwng y ddau sefydliad.

Un o uchafbwyntiau Vernon yn ei yrfa oedd arwain strategaeth marchnata a chyfathrebu’r diwydiant trafnidiaeth a'r llywodraeth ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012, sef yr ymgyrch integredig fwyaf o’i math erioed.  

Wrth siarad am ei rôl newydd gyda Trafnidiaeth Cymru, dywedodd Vernon Everitt:

"Mae’n fraint ymuno â thîm Trafnidiaeth Cymru fel Cyfarwyddwyr Anweithredol, yn enwedig mewn cyfnod mor gyffrous o drawsnewid. Rydw i wedi bod yn gweithio i Transport for London ers dros 12 mlynedd mewn amryw o rolau, a bydd hwn y gyfle gwych i mi rannu fy arbenigedd a fy ngwybodaeth am y diwydiant.

"Mae llawer o elfennau tebyg rhwng TfL a TrC.  Yr hyn sy’n ganolog i’r ddau sefydliad yw eu bod yn meddwl am anghenion teithwyr a chwsmeriaid bob amser, ac yn gwella trafnidiaeth yn barhaus drwy greu gwasanaethau hygyrch ac integredig.  Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda TrC wrth iddynt fwrw ymlaen â’u cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid trafnidiaeth ar draws Cymru a’r Gororau."

Ychwanegodd Scott Waddington, Cadeirydd Bwrdd Trafnidiaeth Cymru:

"Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Vernon i dîm Trafnidiaeth Cymru fel Cyfarwyddwyr Anweithredol. Yn sgil ei swydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr Transport for London, mae ganddo wybodaeth helaeth am y diwydiant, a fydd yn helpu i lywio ein cynlluniau strategol ac i gyflawni prosiectau allweddol wrth i ni symud ymlaen.

"Mae gan Vernon lawer o brofiad ym maes cwsmeriaid, o ran strategaeth, dealltwriaeth a gwybodaeth, ac mae cwsmeriaid yn ganolog i brosesau gwneud penderfyniadau Trafnidiaeth Cymru. Bydd ei ddealltwriaeth a’r brofiad helaeth yn hollbwysig wrth i ni weithio i drawsnewid profiadau teithio ein cwsmeriaid yn llwyr."

Llwytho i Lawr