23 Chw 2022
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn parhau â’r gwaith o adeiladu Metro De Cymru gyda’r gwaith yn digwydd yn y gwanwyn.
Bydd trawsnewid Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro – sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru – yn galluogi gwasanaethau cyflymach ac amlach rhwng Caerdydd a Blaenau’r Cymoedd.
Fel rhan o hyn, mae Trafnidiaeth Cymru yn adeiladu depo a chanolfan reoli newydd sbon yn Ffynnon Taf, a bydd yn gwneud gwaith hanfodol yn yr orsaf a’r ardal gyfagos drwy gydol y gwanwyn.
Rhwng 1 a 2 Mawrth, ni fydd unrhyw drenau yn rhedeg rhwng Pontypridd a Radur tra bod gwaith yn cael ei wneud ar y lein, gan gynnwys torri a chlirio llystyfiant, gosod traciau ar gyfer y depo newydd, a gwneud gwaith ar yr orsaf i baratoi ar gyfer adeiladu pont droed hygyrch newydd. Bydd gwasanaethau bysiau yn cymryd lle’r trên rhwng Pontypridd a Radur.
Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud yn ddiweddarach yn y gwanwyn pryd bydd angen cau Ffordd Bleddyn, y ffordd y tu allan i'r orsaf, yn gyfan gwbl. Er bod y ffordd wedi bod ar gau i gerbydau ers mis Awst 2021, mae trefniadau ar y gweill i'w chau i gerddwyr a beicwyr o 11 Ebrill, cyn belled ag y ceir cymeradwyaeth cynllunio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Bydd hyn yn golygu y bydd rhan fach o Lwybr Taf ar gau, gyda dargyfeiriadau yn eu lle a bydd y trefniant hwn yn para tan yr hydref.
Er mwyn sicrhau bod y llwybrau dargyfeirio arfaethedig yn addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr, ymysg y gwaith gwella y bydd Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud ar hyd Forest Road a Cemetery Road fydd adeiladu lôn feiciau a rhoi mesurau tawelu traffig ar waith er mwyn diogelu defnyddwyr agored i niwed.
Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC:
“Bydd y gwaith hanfodol hwn yn golygu ein bod ni gam arall ymlaen o ran adeiladu Metro De Cymru ar gyfer pobl Cymru.
“Bydd y gwaith seilwaith allweddol yn caniatáu inni ei baratoi ar gyfer cyflwyno trenau tram newydd sbon yn y blynyddoedd i ddod.
“Hoffwn ddiolch i’n cymdogion a’n teithwyr ar ochr y llinell ymlaen llaw am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus wrth i ni barhau â’r gwaith hwn.”
Os oes gan aelodau'r cyhoedd bryderon neu gwestiynau ynghylch y gwaith gwella ar hyd Forest Road a Cemetery Road, mae modd iddyn nhw eu mynegi yn ffurfiol trwy gysylltu â thîm rheoli traffig Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf cyn 9 Mawrth 2022. Gellir gwneud hyn drwy e-bostio trafficservices@rctcbc.gov.uk neu anfon llythyr at y Rheolwr Gwasanaethau Traffig, Yr Adran Rheoli Traffig, Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU.
Nodiadau i olygyddion
I gael rhagor o wybodaeth am waith y Metro, gall cwsmeriaid a phreswylwyr gysylltu â thîm cysylltiadau cwsmeriaid TrC drwy ffonio 033 33 211 202 (rhwng 0800 a 2000 dydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 1100 a 2000 ar ddydd Sul) neu ymweld â https://trc.cymru/cymorth-a-chysylltu/rheilffordd/cysylltu-a-ni.
I ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am waith yn eich ardal chi, ewch i https://workinyourarea.trc.cymru/cy.
I ddysgu mwy am weledigaeth TrC ar gyfer Metro De Cymru, ewch i https://trc.cymru/metro-de-cymru.