25 Meh 2025
Mae cydweithwyr o bob rhan o Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi beicio eu ffordd i lwyddiant, gan godi dros £1,000 mewn her beiciau statig i gefnogi Seren Dwt, eu helusen y flwyddyn 2025.
Gyda’i gilydd, beiciodd y tîm fwy na 220 milltir, sy’n cyfateb i’r pellter o Gaer i Gaerdydd - yn ystod digwyddiadau a gynhaliwyd ar 3 Mehefin yng Nghaerdydd a 5 Mehefin yng Nghaer - gan ragori ar eu targed gwreiddiol o 198 milltir. Daeth yr her â chystadleuaeth ffyrnig ond gyfeillgar, gyda chydweithwyr yn beicio ar eu pen eu hunain neu mewn timau, yn gwisgo gwisgoedd archarwyr ac yn manteisio ar bob cyfle i feicio milltiroedd ychwanegol.
Mae Seren Dwt yn sefydliad bach, nid-er-elw sydd wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd ledled Cymru sydd â phlentyn wedi'i eni â chromosom 21ain ychwanegol (Trisomedd 21, neu syndrom Down). O flychau "croeso” i’r babi, a ddanfonir ar draws byrddau iechyd Cymru, i ymdrechion ariannu adnoddau lleferydd ac iaith hanfodol, mae gwaith Seren Dwt yn helpu teuluoedd i deimlo bod ganddynt gysylltiad â theuluoedd eraill a’u bod wedi’u grymuso o'r diwrnod cyntaf.
Dywedodd Laura Thomas o Seren Dwt: “Diolch yn fawr iawn i TrC am eu cefnogaeth eleni. Mae pob rhodd yn ein helpu i gyrraedd mwy o deuluoedd a sicrhau bod pob teulu sydd â phlentyn wedi’i eni â syndrom Down yng Nghymru yn cael ei groesawu â phositifrwydd a chefnogaeth.”
Dim ond y dechrau yw'r digwyddiad codi arian hwn. Roedd y digwyddiad beiciau statig yn rhan o gynnig ehangach a gynlluniwyd i gefnogi Seren Dwt drwy gydol y flwyddyn. Bydd cydweithwyr TrC yn parhau i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau codi arian, gan gynnwys lansio cerbyd Marc 4 wedi'i addurno'n arbennig yn y misoedd nesaf, a gynlluniwyd er mwyn codi ymwybyddiaeth o genhadaeth Seren Dwt ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd.
Ychwanegodd Prif Swyddog Gweithredol TrC, James Price: “Rydym wrth ein bodd o gael ffurfio partneriaeth â Seren Dwt. Mae’r cydweithrediad hwn yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth a chefnogi achos sy’n gwneud gwahaniaeth ystyrlon i deuluoedd a chymunedau ledled Cymru.”
I ddysgu mwy am Seren Dwt, ewch i'w gwefan swyddogol: serendwt.org