Skip to main content

#PurpleLightUp – Transport for Wales leading the way for Wales!

02 Rhag 2020

Bydd pencadlys newydd Trafnidiaeth Cymru wedi’i oleuo’n biws ddydd Iau yma gan gynrychioli Cymru mewn darllediad byd-eang sy’n dathlu cynhwysiant pobl anabl. 

Mae #PurpleLightUp yn ymgyrch byd-eang sy’n dathlu ac yn tynnu sylw at gyfraniad economaidd y 386 miliwn o weithwyr anabl ledled y byd.

Eleni, bydd y darllediad byd-eang 24 awr yn dechrau yn Awstralia, yn symud ymlaen i Asia, Affrica ac Ewrop, lle bydd staff TrC yn cyfrannu, ac yna i Dde a Gogledd America.

Mae TrC, fel sefydliad newydd sydd wedi coleddu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn croesawu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn llawn ac yn ei wreiddio yn niwylliant y gweithle.

Ers cyhoeddi’r Amcanion Cydraddoldeb Strategol ym mis Mehefin 2020, mae TrC wedi sefydlu grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, lle mae cydweithwyr yn cynrychioli elfennau gwahanol o nodweddion gwarchodedig fel aml-ddiwylliant, aml-genhedlaeth, rhywedd, anabledd ac LGBTQ+.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni’n cefnogi #PurpleLightUp ac yn cydnabod cyfraniad gweithwyr anabl, nid dim ond yma yng Nghymru, ond ledled y byd.

“Mae TrC yn sefydliad cwbl gynhwysol, lle mae pob cydweithiwr yn cael ei drin yn gyfartal gyda pharch, a lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu.

“Bydd yn wych gweld ein pencadlys newydd ym Mhontypridd wedi’i oleuo’n biws ar gyfer y dathliad byd-eang hwn gan gynrychioli Cymru fel rhan o’r darllediad byd-eang 24 awr.”

Ychwanegodd Julian John, Rheolwr Gyfarwyddwr Delsion, sy’n gwmni o Ymgynghorwyr Datblygu a Phobl ac yn rhoi pwys mawr ar arloesedd a chynhwysiant:

“Mae #PurpleLightUp yn ymgyrch byd-eang sy’n dathlu’r cyfraniad enfawr y mae pobl anabl yn ei wneud i’r economi ac yn y gweithle.

“Mae Trafnidiaeth Cymru yn sefydliad blaenllaw yng Nghymru ac maent yn cofleidio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn llawn, gan gymryd camau breision i ddangos lefel eu hymrwymiad i ddatblygu diwylliant eu gweithle.  Byddant yn goleuo eu Pencadlys ym Mhontypridd ac yn cymryd rhan yn y darllediad byd-eang 24 awr i gyd-ddathlu gyda gweddill y byd.”

Llwytho i Lawr