25 Tach 2025
Bydd pum trên y dydd yn gwasanaethu rhwng yr Amwythig ac Abertawe drwy Landrindod o fis Rhagfyr.
Fel rhan o newidiadau amserlen mis Rhagfyr, mae Trafnidiaeth Cymru yn ychwanegu trên canol dydd newydd i bob cyfeiriad ar lein Calon Cymru rhwng yr Amwythig ac Abertawe drwy Landrindod, gan gynyddu'r gwasanaeth dyddiol o bedwar i bum trên y dydd.
O 14 Rhagfyr, bydd yr amserlen newydd yn rhoi opsiwn mwy hyblyg i deithwyr ar y lein hon i deithio yn ystod y dydd ac i wneud teithiau hanfodol ac yn helpu i gefnogi'r economi dwristiaeth leol.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: “Mae cysylltiadau rheilfforddyn hanfodol i sbarduno ffyniant.
“Bydd y newidiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gwsmeriaid, a fydd yn elwa o fwy o wasanaethau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau.
“Mae hyn wedi bod yn bosibl gan ein buddsoddiad o £800m mewn trenau newydd sbon ar gyfer rhwydwaith Cymru a'r Gororau.”
Bydd yr amserlen rheilffyrdd yn newid ar 14 Rhagfyr 2025 gan gyflwyno gwelliannau a newidiadau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth fanylach - https://trc.cymru/statws-gwasanaeth/amserlenni
Nodiadau i olygyddion
- Cadarnhawyd yr arian ar gyfer y gwasanaeth ar Lein Calon Cymru ychwanegol fel rhan o gytundeb Cyllidebol 2025-26 gan Lywodraeth Cymru gydag Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Jane Dodds
- Ar draws diwydiant rheilffyrdd y DU mae newidiadua mawr yn cael eu gwneud i amserlenni bob blwyddyn ym mis Mai ac ym mis Rhagfyr fel rhan o'r newid amserlen rheilffyrdd bob dwy flynedd cenedlaethol a gydlynir ledled Prydain Fawr.
- Mae'r amserlenni newydd bellach wedi'i hymgorffori yn y systemau cynllunio teithiau cyn y newid ar 14 Rhagfyr, felly gall cwsmeriaid chwilio am amseroedd trenau ar ôl y dyddiad hwn.
- Mae manylion gwasanaethau TrC bellach ar gael ar ein gwefan yn www.trc.cymru, a elwid gynt yn ‘Gwiriwr Taith'.