Skip to main content

Community-led creative projects celebrate success at UK awards

19 Maw 2024

Mae rhai o'n mentrau rhagorol a arweinir gan y gymuned wedi cael eu cydnabod mewn seremoni Wobrwyo Rheilffyrdd Cymunedol, seremoni oedd yn cael ei chynnal am y 19eg tro yr wythnos hon.

Cynhaliwyd y digwyddiad, a drefnwyd gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol ac a noddwyd ar y cyd gan TrC a GWR, yn Abertawe am y tro cyntaf ac fe'i cynhaliwyd ar y cyd gan Marie Daly, ein Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant.  Daeth dros 400 o bobl i'r digwyddiad, gan gynnwys uwch arweinwyr rheilffyrdd a thrafnidiaeth, swyddogion rheilffyrdd cymunedol a gwirfoddolwyr.

Roedd yn cydnabod prosiectau sy'n cefnogi amrywiaeth, hygyrchedd a chynhwysiant, teithio cynaliadwy a thwristiaeth, ymgysylltu ag ieuenctid ac ysgolion, gwella gorsafoedd a arweinir gan y gymuned, grymuso cymunedau a dylanwadu ar newidiadau cadarnhaol, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio creadigrwydd ac adrodd straeon i ysbrydoli teithiau cynaliadwy ar reilffyrdd a grymuso pobl ifanc.

Llwyddodd tri phrosiect arloesol dan arweiniad ein partneriaeth rheilffordd gymunedol gysylltiedig o bob rhan o'r rhwydwaith i gyrraedd y rhestr fer:

  • Enillodd Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian y Wobr Twristiaeth a Hamdden am eu prosiect dwyieithog ‘Window Seater' / 'Sedd ger y Ffenestr', sy'n rhannu straeon sain geoleoliadau ar hyd y llwybr, gan ddweud hanesion a rhoi mewnwelediadau lleol. Mae'n cysylltu teithwyr â'r byd y tu allan i ffenestr y trên a'i nod yw ysbrydoli mwy o deithiau gwyrddach ar y rheilffordd.
  • Roedd Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy a Gogledd Orllewin Cymru ar y rhestr fer am eu gwaith gyda plant a phobl ifanc ar ffurf prosiect celf yng Ngorsaf Conwy, gan annog pobl ifanc i deimlo ymdeimlad o berchnogaeth a phositifrwydd tuag at yr orsaf a'r rheilffordd.

Roedd yr un bartneriaeth hefyd ar y rhestr fer ar gyfer y wobr Dylanwadu ar Newid Cadarnhaol a Chynaliadwyedd gyda'u fideos ‘Hyder i Deithio'.  Wedi'i anelu at bobl ag anableddau anweledig, mae'r fideos yn rhoi mewnwelediad ynglŷn beth i'w ddisgwyl wrth ddefnyddio bws neu drên a ble i ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth ychwanegol.

Cefnogir mwy na 50% o'r rhwydwaith rheilffyrdd ledled Cymru gan bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol, gwirfoddolwyr ffrindiau gorsafoedd a grwpiau rheilffyrdd cymunedol eraill.  Dangosir bod eu gweithgareddau yn chwarae rhan bwerus wrth gefnogi blaenoriaethau polisi Cymru i annog a galluogi teithio a symudedd cynaliadwy, cynhwysol.

Dywedodd Jools Townsend, Prif Weithredwr Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol: “Roeddem yn falch iawn o gynnal ein Gwobrau Rheilffyrdd Cymunedol yng Nghymru eleni, lle mae rheilffyrdd cymunedol yn parhau i dyfu a ffynnu.

“Mae rheilffyrdd cymunedol yn arbennig o berthnasol a phwysig ar hyn o bryd, wrth i Gymru geisio symud tuag at drafnidiaeth fwy cynaliadwy a chynhwysol, i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar y cyfleoedd y maent eu heisiau, ac i ddenu ymwelwyr heb lygredd.  Llongyfarchiadau i'n holl enillwyr, a diolch i bawb sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo rheilffyrdd cymunedol yng Nghymru.”

Dywedodd Marie Daly, Trafnidiaeth Cymru:“Roedd pawb ar ben eu digon ac roedd yn fraint o noddi gwobrau eleni yn Abertawe a chael cyfle i ddathlu'r gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud ledled y DU ac yn enwedig ar draws ein rhwydwaith ein hunain.

“Rydym mor ffodus i allu gweithio gyda chymaint o gymunedau a sefydliadau anhygoel trwy ein Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol.  Rydym wir yn credu, trwy gysylltu ac annog cydweithredu ymhlith busnesau a sefydliadau mewn cymunedau lleol, y gallwn rymuso'r cymunedau hynny i weithio gyda'i gilydd ar ystod eang o faterion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol, yn ogystal ag arddangos y gorau sydd gan ein rhwydwaith i'w gynnig.”