Skip to main content

Full steam ahead for community railway project

04 Rhag 2024

Mae Grŵp Rheilffordd Fach Nantwich wedi gallu cwblhau gwaith yn ymestyn trac diolch i gefnogaeth gan Trafnidiaeth Cymru (TrC).

Trwy ei rhaglen effaith gynaliadwy, mae TrC yn gweithio mewn partneriaeth â phrosiectau cymunedol ledled Cymru a'r Gororau i gefnogi mentrau sydd o fudd i gymunedau lleol gan gefnogi eu hymdrechion i gefnogi eraill.

Dywedodd Eddie George, un o Gyfeillion Blwch Signalau Nantwich, sy'n rhedeg y Rheilffordd Fach yno: ‘Rydym yn ddiolchgar iawn i TrC am eu cefnogaeth.  Mae wedi ein galluogi i gwblhau y cam cyntaf o'r gwaith sef ymestyn y trac.  Mae hefyd wedi ein galluogi i ddechrau ar y gwaith o ddylunio cromlin y trac er mwyn gallu ymuno'r ddau drac presennol.

Lleolir y Rheilffordd Fach yn Eglwys Fethodistaidd Nantwich ac fe ofalir amdani gan aelodau o’r  eglwys ynghyd â Chyfeillion Blwch Signalau Nantwich Cyf.  Mae'r eglwys hefyd yn rhedeg clwb plant o'r enw ‘Drop N Shop'.  Yn sgil y clwb hwn y daeth y rheilffordd i fodolaeth, yn rhedeg trên stêm am ddim sydd, dros y ddegawd ddiwethaf, wedi codi dros £20,000 i elusennau plant.

"Rydym yn gobeithio cynnal mwy o weithgareddau fydd yn cynnwys adeiladu model o hen Flwch Signalau Nantwich gyda chymorth myfyrwyr UTC Crewe.  Mae'r rhai myfyrwyr yno eisoes wedi ein helpu i adeiladu'r  trac.  Rydym yn ddiolchgar iawn i'n holl noddwyr a chefnogwyr am eu cymorth hael.  Byddai’n amhosibl parhau hebddynt," ychwanegodd Eddie.

Dywedodd Dr Louise Moon, Rheolwr Treftadaeth ac Effaith Gynaliadwy TrC: “Roeddwn wrth fy modd yngallu gweld drosof fy hun y gwahaniaeth y mae cefnogaeth TrC wedi'i wneud i brosiect sy'n ganolog i gymuned Nantwich.  Mae'n codi arian hanfodol i elusennau plant ac mae gweld sefydliadau yn dod ynghyd i gefnogi prosiectau o'r fath yn rhagorol’

Mae'r grŵp hefyd wedi cael ei gefnogi gan fyfyrwyr o goleg Peirianneg a Dylunio UTC Crewe sydd eisoes wedi helpu i adeiladu'r trac.

Dywedodd Steven Fergusson, Dirprwy Bennaeth Crewe UTC: “Mae rhai o’n myfyrwyr wedi cael pleser mawr yn gweithio ar y prosiect hwn, ac mae eu galluogi i gwblhau tasgau peirianneg a dylunio go iawn yn rhan bwysig o'n cwricwlwm sef gweithio gyda phartneriaid o fewn y diwydiant a'n cymunedau. Mae hyn yn rhoi profiad gwaith go iawn i fyfyrwyr gyda chyflogwyr, yn rhoi hwb i'w CV, ac yn rhoi profiad go iawn o weithio ym maes peirianneg.  Mae hyn yn eu helpu i fod yn ‘barod i wynebu'r diwydiant' pan fyddant yn gadael y coleg.

Nodiadau i olygyddion


Llun: O'r chwith i'r dde - Steven Fergusson, Dirprwy Bennaeth Crewe UTC, Dr Louise Moon, Rheolwr Treftadaeth ac Effaith Gynaliadwy TrC, Paul Durant ac Eddie George dau o Gyfeillion Blwch Signalau Nantwich.

Nodiadau i Olygyddion:

Mae Drop N Shop ar gyfer plant 4 - 11 oed.  Fe'i cynhelir ar foreau Sadwrn (rhwng 10am a hanner dydd) yn Eglwys Fethodistaidd Nantwich.