Skip to main content

Green Routes project provides big boost for biodiversity

28 Chw 2023

Mae bioamrywiaeth wedi'i wella mewn 25 o orsafoedd rheilffordd ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau drwy brosiect Llwybrau Gwyrdd Trafnidiaeth Cymru (TrC). 

Mae’r fenter 18 mis o hyd wedi’i defnyddio i greu mannau gwyrdd a gwella bioamrywiaeth mewn 25 o orsafoedd trenau TrC a phum ardal gymunedol, oll o fewn milltir i orsaf.

Gan weithio ochr yn ochr â thimau cynaliadwyedd a rheilffyrdd cymunedol TrC, mae 176 o wirfoddolwyr wedi helpu i wella dros 1,000 metr sgwâr o dir ar gyfer bioamrywiaeth, wedi plannu 125 o blanhigion mewn gorsafoedd a gosod mwy na 300 o nodweddion gwyrdd.  

Cefnogwyd prosiect Llwybrau Gwyrdd gan £100,000 o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol drwy Gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.  Gwariwyd bron i 80% o'r cyllid gyda busnesau a sefydliadau lleol Cymreig. 

Dywedodd Dr Louise Moon, Rheolwr Rhaglen Datblygu Cynaliadwy TrC: “Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan helpu i wella bioamrywiaeth mewn gorsafoedd ledled Cymru a’u gwneud yn fannau mwy lliwgar a chroesawgar i’n teithwyr.

“Mae nifer o dimau ar draws TrC wedi gweithio’n galed i roi'r prosiect ar waith ac mae’n rhaid i ni dalu teyrnged i waith ein gwirfoddolwyr cymunedol a mabwysiadwyr gorsafoedd ledled y wlad. Rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda nhw ar y prosiect hwn i allu cefnogi eu huchelgeisiau a’u dyheadau wrth greu mannau gwyrdd.  Mae’r mannau hyn nid yn unig yn cefnogi bioamrywiaeth ond yn cefnogi iechyd a lles pobl a chymunedau lleol hefyd.”

Dengys gwaith monitro ecolegol cychwynnol TrC bod byd natur yn dychwelyd i orsafoedd a mannau cymunedol cyfagos gyda mwy o rywogaethau’n cynyddu a gwelliannau i beillwyr wedi’u cofnodi.  Amcangyfrifir bod prosiect Llwybrau Gwyrdd wedi cynyddu nifer y rhywogaethau mewn gorsafoedd o fwy na 700 ac amcangyfrifwyd bod mwy na 3,000 o welliannau peillwyr wedi'u gwneud hyd yma.

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect Llwybrau Gwyrdd Trafnidiaeth Cymru ewch i   Llwybrau gwyrdd | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)