Skip to main content

New Metro tram-train in testing

16 Meh 2023

Mae trenau tram newydd sbon a fydd yn chwyldroi trafnidiaeth gyhoeddus bellach yn cael eu profi ar reilffyrdd Metro De Cymru.

Wedi'i cyflenwi gan y gwneuthurwr blaenllaw Stadler, gall y cerbydau rheilffordd ysgafn wasanaethu ar linellau rheilffordd a thram a byddant yn gweithredu ar linellau sydd wedi’u tradaneiddio a thrwy pŵer batri.  Yn 40 metr o hyd, gall trenau tram Citylink gludo dros 250 o deithwyr a rhedeg ar hyd rheilffordd ar gyflymder o 100km yr awr.   

Mae gan y cerbydau llawr uchel ddigon o le i deithwyr, maent yn hynod gyfforddus ac mae ganddynt system aerdymheru gyda 6 ardal amlfodd ar gyfer beiciau, seddi i bobl â llai o symudedd a dau le i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Yn ddiweddar, llwyddodd Trafnidiaeth Cymru i drydaneiddio cam cyntaf Metro De Cymru ac mae'r trenau tram cyntaf bellach yn cael eu profi, yn barod i gludo teithwyr yn 2024.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sydd a chyfrifoldeb am Drafnidiaeth: “Mae hwn yn newyddion gwych.  Wedi'i ariannu gan ein buddsoddiad o £800m mewn fflyd newydd o drenau, bydd y trenau tram rheilffyrdd ysgafn newydd hyn, sy'n cael eu pweru gan drydan, yn gyflymach a chyda mwy o le i deithwyr, yn chwarae rhan bwysig yn ein cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd Cymru."

Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru: “Mae hon yn garreg filltir bwysig arall i ni yn TrC.  Rydym eisoes eleni wedi cyflwyno tri math newydd o drên i'n rhwydwaith i deithwyr eu defnyddio.  Pleser i'w gallu cyhoeddi ein bod nawr yn profi ein trenau tram rheilffordd ysgafn newydd a fydd yn gweithredu gwasanaeth troi i fyny ar Fetro De Cymru yn y dyfodol agos iawn.

“Nid yw Cymru wedi profi teithio ar reilffyrdd ysgafn eto a bydd y cerbydau hyn yn cludo teithwyr mewn dull cyflymach, glanach a mwy effeithlon.  Rydym yn buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd sbon i Gymru a biliwn o bunnoedd ar Metro De Cymru a thrwy drawsnewid ein rhwydwaith, rydym am annog mwy o bobl i deithio'n gynaliadwy."  

Llwytho i Lawr