Skip to main content

New electric tram-trains in testing for South Wales Metro

16 Ebr 2025

Mae trenau tram trydan newydd sbon bellach yn cael eu profi ar linellau rheilffordd y Cymoedd, sydd wedi cael eu trydaneiddio’n ddiweddar, wrth i TrC gymryd cam arall ymlaen wrth gyflawni cam nesaf Metro De Cymru.

Yn rhan o fuddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd sbon ledled Cymru a'r Gororau, bydd trenau tram Dosbarth 398 CITYLINK Stadler yn chwyldroi trafnidiaeth yn Ne Cymru.

Gyda'r gallu i redeg ar linellau rheilffordd a thram, gallant weithredu ar linellau trydan uwchben a phŵer batri, a gyda thri cherbyd, gallant gario mwy na 250 o deithwyr.

Mae dros biliwn o bunnoedd wedi'u buddsoddi i drawsnewid y seilwaith rheilffyrdd yn Ne Cymru, wrth i dros 170 km o linellau rheilffyrdd gael eu trydaneiddio, gan gynnwys llinellau Merthyr, Aberdâr a Threherbert.

Yn ogystal â hyn, adeiladwyd depo pwrpasol newydd sbon gwerth £100 miliwn yn Ffynnon Taf, sy'n gweithredu fel canolfan reoli ar gyfer y Metro ac fel cartref i'r 36 trên tram newydd.

Ychwanegodd Marie Daly, Prif Swyddog Gweithredu Trafnidiaeth Cymru: “Mae hon yn garreg filltir bwysig arall i ni yn TrC. Rydym eisoes wedi cyflwyno ein trenau Dosbarth 756 newydd sbon ar linellau Merthyr, Aberdâr a Threherbert i wella'r profiad i'n teithwyr. Erbyn hyn rydym yn gyffrous i symud ymlaen i gam nesaf y prosiect, wrth i ni brofi ein trenau tram rheilffordd ysgafn a fydd yn cynnig gwasanaeth ‘cyrraedd a mynd’ fel rhan o Metro De Cymru.

"Mae cyflwyno ein trenau Metro Dosbarth 756 newydd a'n trenau tram yn rhan o'n buddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd sbon i Gymru, ochr yn ochr â gwaith uwchraddio seilwaith gwerth biliwn o bunnoedd i wella amlder a hygyrchedd gwasanaethau. Trwy drawsnewid ein rhwydwaith rheilffyrdd, rydym yn anelu at ddarparu opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus dibynadwy, cyfforddus a deniadol i'n cwsmeriaid."

Dywedodd Andrew Gazzard, Pennaeth Parodrwydd Gweithredol yn TrC: "Bydd yn rhaid i'n timau ymgyfarwyddo â’r trenau a chael profiad o’u gyrru, a bydd angen i ni ddechrau hyfforddi gyrwyr yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

"Mae'n foment falch iawn i mi a'r tîm allu gweld y trenau tram hyn ar y rhwydwaith ac rydym yn edrych ymlaen at y cam nesaf a fydd yn eu paratoi ar gyfer teithwyr."