01 Rhag 2025
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwneud teithio dros yr ŵyl yn fwy fforddiadwy ym mis Rhagfyr gyda chynnig pris tocyn gyda'r nos arbennig o £1 ar lwybrau bysiau dethol TrawsCymru.
O 1 Rhagfyr 2025 tan 2 Ionawr 2026, gall teithwyr deithio am ddim ond £1 ar deithiau sengl ar ôl 5yh, gan helpu teuluoedd, ffrindiau a chymunedau i ddod at ei gilydd dros gyfnod y Nadolig.
P'un a ydych chi'n mynd i barti Nadolig, yn siopa'n hwyr yn y nos, neu'n gwneud eich ffordd adref o'r gwaith, mae'r cynnig hwn yn golygu y gallwch chi wario llai ar deithio a mwy ar y pethau sy'n bwysig y tymor hwn.
Llwybrau sydd wedi’u cynnwys yn y cynnig:
- T1: Aberystwyth – Caerfyrddin
- T2: Bangor – Aberystwyth
- T3/T3C: Wrecsam – Abermaw
- T4: Y Drenewydd – Merthyr Tudful
- T5: Aberystwyth – Hwlffordd
- T6: Aberhonddu – Abertawe
- T8: Corwen i Gaer
- T10: Bangor – Corwen
- T22: Caernarfon – Blaenau Ffestiniog
- T28: Machynlleth – Aberystwyth
I ddefnyddio’r cynnig hwn, ewch ar y bws ar ôl 5yh a gofynnwch am docyn sengl £1. Gellir talu ag arian parod, digyffwrdd, neu Tap Ymlaen, Tap Ymadael. Sylwch, ni ellir prynu tocynnau ymlaen llaw na'u prynu trwy'r ap.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Yn y cyfnod cyn y Nadolig gyda siopa a digwyddiadau cymdeithasol, mae cael trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy a dibynadwy yn bwysicach nag erioed.
"Rwy'n falch o weld ffi o £1 yn cael ei gyflwyno ar gyfer gwasanaethau nos TrawsCymru yn ystod y cyfnod hwn, ac rwy'n siŵr y bydd llawer yn ei groesawu wrth iddynt ymweld â ffrindiau a theulu yn ystod y cyfnod y Nadolig.”
Dywedodd Huw Morgan, Pennaeth Trafnidiaeth Integredig a Datblygu Rhwydwaith Bysiau Trafnidiaeth Cymru: “Am ddim ond £1 y daith, rydym yn ei gwneud hi'n haws ac yn fwy fforddiadwy i bobl ledled Cymru fwynhau popeth sydd gan fis Rhagfyr i'w gynnig.
“Boed yn ymweld â theulu, mynd i farchnad Nadolig, neu mynd adref o'r gwaith, bydd ein rhwydwaith TrawsCymru yn cadw Cymru wedi'i chysylltu ym mis Rhagfyr”
Am fwy o fanylion am delerau ac amodau, digwyddiadau Nadoligaidd a newidiadau i wasanaethau, ewch i - Tocynnau bws am £1 ar ôl 5yh ym mis Rhagfyr - TrawsCymru.
Nodiadau i olygyddion
Mae'r cynnig hwn yn rhedeg o 1 Rhagfyr 2025 tan 2 Ionawr 2026, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, a Dydd Calan pan nad oes unrhyw wasanaethau'n gweithredu.