Skip to main content

£1 Bus Fares for Young People in Wales

01 Medi 2025

O heddiw ddydd Llun 1 Medi, gall pobl ifanc 16-21 oed gael tocynnau bws am £1 ledled Cymru drwy wneud cais am fyngherdynteithio am ddim.

Mae'r cynllun peilot blwyddyn wedi'i gynllunio i wneud teithio'n fwy hygyrch a fforddiadwy, gan helpu pobl ifanc i gysylltu ag addysg, cyflogaeth a chyfleoedd cymdeithasol. Yn ogystal â'r pris tocyn sengl am £1, mae tocyn dydd diderfyn hefyd ar gael am ddim ond £3.

I fanteisio ar y prisiau gostyngedig hyn, bydd angen i bobl ifanc wneud cais am eu fyngherdynteithio am ddim.

Bydd y rhaglen yn cael ei hymestyn ym mis Tachwedd i gynnwys pobl ifanc 5-15 oed, gan sicrhau bod hyd yn oed mwy o blant a theuluoedd yn elwa o'r gostau teithio is.

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio yn Trafnidiaeth Cymru: “Mae’r cynllun peilot hwn yn gam sylweddol tuag at wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy fforddiadwy i bobl ifanc yng Nghymru. Drwy ostwng prisiau i ddim ond £1, rydym yn gobeithio annog mwy o bobl ifanc i ddewis i deithio ar bws.”

Gellir prynu'r prisiau gostyngol yn uniongyrchol gan yrrwr y bws neu drwy'r ap gweithredwr bysiau. Wrth ddefnyddio ap, rhaid i ddefnyddwyr gofrestru eu mytravelpass a'i gyflwyno i'r gyrrwr. Mae'r prisiau gostyngedig hefyd yn berthnasol i wasanaethau trawsffiniol, cyn belled â bod y daith yn dechrau neu'n gorffen yng Nghymru.

Nodiadau i olygyddion


  • Cliciwch yma i weld ymweliad y gweithredwyr bysiau sy'n cymryd rhan
  • Bydd tocynnau sengl a brynir ar yr ap dim ond yn dilys ar wasanaethau a weithredir gan y cwmni bysiau a werthodd y tocyn, gall tocyn diwrnod £3 a brynir trwy ap cael ei ddefnyddio ar unrhryw wasanaethau Cymru sydd yn cymryd rhan.
  • Nid yw'r prisiau gostyngedig ar gael ar wasanaethau coets a weithredir gan National Express, Megabus, na Flix Bus.