Skip to main content

You're hired! Two Welsh railway workers in the running for Apprentice of the Year

03 Hyd 2019

MAE dwy o brentisiaid Trafnidiaeth Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Trafnidiaeth 2019 yng Nghymru.

Mae Demi Woodham sy’n Brentis Peirianneg Fflyd a Katie Ratcliffe sy’n Brentis Cynllunio Trenau ill dwy wedi cael eu henwebu ar gyfer y gwobrau sy’n dathlu llwyddiannau arbennig y wlad drwy sectorau’r diwydiant. Bydd y Gwobrau Trafnidiaeth yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar 1 Tachwedd 2019.

Mae’r llwyddiant hwn yn cefnogi’r weledigaeth strategol bod Prentisiaethau yn rhan allweddol o’n strategaeth talent.

Mae’n cyd-daro â lansio rhaglen prentisiaid newydd Trafnidiaeth Cymru ym mis Medi.

Cafodd Demi ei hysbrydoli i roi cynnig am ei phrentisiaeth pedair blynedd o hyd ar ôl clywed prentisiaid eraill yn siarad mewn ffair yrfaoedd.

A hithau wedi dod yn fam yn ystod ei thrydedd flwyddyn, cymerodd Demi ychydig o fisoedd i ffwrdd cyn dychwelyd at ei phrentisiaeth ac mae wedi dangos dycnwch ac angerdd dros beirianneg.

Mae hi’n 20 oed ac yn gweithio yn y depo fflyd yn Nhreganna, Caerdydd, gan helpu i sicrhau bod fflyd TrC o 134 trên yn dal i redeg i’r safon orau bosibl.

Dywedodd: “Cyn dechrau, roeddwn i’n meddwl y byddai Prentisiaeth yn union fel yr ysgol, ond fe wnes i ddysgu’n gyflym bod y Brentisiaeth yn wahanol iawn i addysg ysgol - roeddwn i’n cael strwythur clir, gyda llawer iawn o brofiadau ymarferol a oedd yn rhoi cyfle i mi ‘ddysgu wrth ennill cyflog’.

“Byddwn i’n sicr yn argymell prentisiaeth i unrhyw un, gan gynnwys fy ffrindiau a’m teulu.

“Rwy’n falch o’r hyn rwyf wedi gallu ei gyflawni ac rwyf mor ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle.”

Yn y cyfamser, dechreuodd Katie fel prentis Cysylltiadau Cwsmeriaid cyn symud ymlaen i gynllunio trenau. 

Mae hi wedi dangos ei hymrwymiad i’r Diwydiant Rheilffyrdd drwy ymuno â’r rhaglen Gweithwyr Rheilffyrdd Ifanc Proffesiynol (YRP) fel ‘Rheolwr Into Rail’ - cynllun ffantastig i hyrwyddo’r diwydiant rheilffyrdd fel lle gwych i weithio ac i ysbrydoli ac i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ddoniau rheilffyrdd.

“Rwy’n falch iawn o fod wedi cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau Trafnidiaeth,” meddai Katie.

Yn bersonol, rwy’n credu bod prentisiaethau yn llwybr gwych i yrfa yn y Diwydiant Rheilffyrdd.

“Wrth ddechrau fel prentis, wnes i erioed feddwl y byddwn i’n dysgu ac yn datblygu fel rwyf wedi’i wneud.

“Rwy’n credu y dylai pobl ifanc sy’n ystyried gyrfa yn y diwydiant rheilffyrdd ddysgu rhagor am y cynlluniau prentisiaeth ac edrych ymlaen at y cyfleoedd lu sydd ar gael.”

Roedd Ann Nicholas, y Rheolwr Gyrfaoedd a Phrentisiaethau, yn falch iawn gyda’r enwebiadau, gan ychwanegu “Rwyf wrth fy modd bod ein Prentisiaid wedi cael eu cydnabod a’n bod yn dathlu’r hyn sy’n dda am ein sector sy’n cyfrannu cymaint at economi Cymru. Mae prentisiaid yn datblygu sgiliau a gwybodaeth gweithwyr y mae modd eu rhoi ar waith ar unwaith yn y gweithle.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i greu dros 1,000 o gyfleoedd i brentisiaid ac i raddedigion dros 15 mlynedd fel rhan o’r buddsoddiad gwerth £5 biliwn yng ngwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau. Ar ben hynny, mae wedi lansio rhaglen Prentisiaeth newydd sbon, sy’n cynnig cyfleoedd gyrfa newydd ar gyfer pobl ifanc yn y diwydiant trafnidiaeth.

Mae’r tri Phrentis Rheoli Prosiectau cyntaf nawr yn eu swydd ac yn edrych ymlaen at ddechrau gyrfa newydd mewn diwydiant cyffrous.

Bydd Alannah Lewis, Katie Williams a Joshua Sheppard yn canolbwyntio ar amrywiaeth o brosiectau yn y timau Ymgynghoriaeth, Gwasanaethau Corfforaethol a Seilwaith y Rheilffyrdd, ar yr un pryd â gweithio tuag at gymhwyster rheoli prosiectau gyda Choleg Caerdydd a'r Fro dros y ddwy flynedd nesaf.

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae hon yn garreg filltir bwysig i Trafnidiaeth Cymru wrth i ni ddatblygu ein cynllun prentisiaeth a chyflwyno cyfleoedd newydd i ddysgu ac i weithio yng Nghymru. Mae'r cynllun prentisiaeth newydd yn ychwanegol at ymrwymiad TrC i greu 30 prentisiaeth y flwyddyn fel rhan o’r buddsoddiad gwerth £5 biliwn yng ngwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau. Bydd rhagor o gyfleoedd cyffrous yn dilyn wrth i’r cynllun dyfu. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n prentisiaid newydd talentog, a fydd yn rhan bwysig o deulu TrC wrth iddyn nhw reoli rhai o’n prosiectau pwysig.”

Dywedodd Joshua, Katie ac Alannah, sydd ill tri yn 22 oed, eu bod "wrth eu bodd ac yn edrych ymlaen" at ddechrau eu swyddi newydd.

“Rydw i'n cael cymryd rhan yn y prosiectau sydd ar y gweill i drawsnewid Cymru ac yn ennill cymhwyster ar yr un pryd,” meddai Katie o Ferthyr Tudful.

“Mae yma amgylchedd gweithio braf ac mae pawb wedi bod yn hapus i helpu.”

Ychwanegodd Alannah, o Gaerffili: “Rydw i'n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn nifer o brosiectau a chael y cyfle i wella fy sgiliau ac ychwanegu at fy ngwybodaeth.”

Ac ychwanegodd Joshua, o Birmingham: “Rydw i'n edrych ymlaen at weithio gyda thîm Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd ac ar y prosiectau cyffrous sydd ar y gweill fel rhan o gynllun £738 miliwn Metro De Cymru.”

TfWApprentices

(O’r chwith i’r dde Alannah, Joshua a Katie)