Skip to main content

New on-train WiFi portal with real-time information

31 Ion 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi lansio porth WiFi newydd ar y trên, a ddatblygwyd gan GoMedia, sy’n cynnwys gwybodaeth amser real a chyfle i deithwyr roi adborth ar y daith.

Mae'r porth yn defnyddio rhai o'r ffynonellau data gorau yn y busnes a system mapio GPS i ddarparu amseroedd cyrraedd a gadael disgwyliedig, rhifau platfformau, opsiynau teithio ymlaen a llawer mwy.

Mae'r porth newydd yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf sy'n dangos lleoliad y trên, yr orsaf nesaf a chyrchfan y gwasanaeth.  Mae hefyd yn cynnwys ffurflen adborth newydd a ShareMyTrain, nodwedd sy'n caniatáu i gwsmeriaid rannu manylion byw am eu taith gyda ffrindiau a theulu trwy SMS neu WhatsApp - sy'n ddelfrydol ar gyfer trefnu i gwrdd.

Dywedodd Teleri Evans, Rheolwr Strategaeth Gwybodaeth Cwsmeriaid TrC : “Rydym yn ymdrechu’n barhaus i wella’r modd y darperir gwybodaeth i gwsmeriaid ar ein gorsafoedd a’n trenau, a diwallu gofynion Safonau’r Gymraeg a chwsmeriaid sydd â nam ar eu clyw.

“Mae ein gwaith diweddaraf gyda GoMedia wedi ein galluogi i wella’r profiad a gaiff ein cwsmeriaid wrth ddefnyddio wifi ar y trên a chyflwyno gwybodaeth amser real ddwyieithog. Mae’r porth newydd yn gwbl hygyrch ac yn diwallu Lefel AA Menter Hygyrchedd y We.”

“Ein porth gwybodaeth amser real newydd yw ein cam diweddaraf lle rydyn ni'n defnyddio data i wella profiad cwsmeriaid ar ein trenau, yn dilyn cynyddu’r data wifi am ddim sydd ar gael o 25mb i 50mb yn 2019 a gosod pwyntiau gwefru at ein holl drenau.  Bydd gan ein trenau newydd sbon sgriniau digidol lliw hefyd gyda gwybodaeth fwy, amser real dwyieithog i’n cwsmeriaid.”

Llwytho i Lawr