02 Meh 2026
Bydd pont reilffordd newydd sbon yn cael ei gosod yng ngorsaf reilffordd Cathays, gyda'r gwaith yn dechrau ar 13 Mehefin 2026.
Bydd pont droed 'Mynediad i Bawb' yn darparu gwell hygyrchedd ac yn helpu i foderneiddio'r orsaf i fod yn ganolfan drafnidiaeth fwy diogel.
Mae nodweddion ychwanegol y gwaith i uwchraddio'r seilwaith yn cynnwys mynediad lifft, heb risiau, i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, llwybrau cerdded gwell a mynediad uniongyrchol i Canolfan Bywyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Mae'r gwelliannau hyn yn rhan o raglen ehangach Metro De Cymru, a fydd yn cefnogi ymrwymiad TrC i ddarparu system drafnidiaeth fwy dibynadwy, cyflymach, gwyrddach a mwy hygyrch i gymunedau ledled Cymru.
Bydd y prosiect yn cael ei gyflawni fesul cam, gyda'r prif waith adeiladu yn dechrau yn Hydref 2026.
Bydd TrC yn cyhoeddi diweddariadau a chyfathrebiadau rheolaidd ym mhob cam allweddol - yn enwedig ynghylch unrhyw effeithiau ar drigolion, busnesau neu ddefnyddwyr ffyrdd.
Dywedodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith Trafnidiaeth Cymru: “Mae’r buddsoddiad hwn yn gam pwysig yn ein gwaith parhaus i wella hygyrchedd a moderneiddio gorsafoedd ledled Cymru.
“Bydd y bont droed newydd yn gwneud gorsaf Cathays yn fwy diogel, yn haws i’w llywio ac yn fwy croesawus i bawb sy’n ei defnyddio.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda Phrifysgol Caerdydd a busnesau lleol eraill i sicrhau bod y prosiect yn cefnogi anghenion y myfyrwyr a’r cymunedau cyfagos, ac rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn datblygu.”
Ychwanegodd Alex Phillips, Uwch Reolwr Prosiectau: "Wrth i ni symud i’r cam cyntaf hwn, bydd ein timau’n dechrau sefydlu’r safle, yn rhoi dargyfeiriadau i gerddwyr ar waith ac yn cynnal gwaith cloddio a gwaith ceblau cychwynnol.
“Mae hwn yn waith galluogi pwysig ar gyfer y prosiect ehangach ac ein ffocws yw ei gyflawni’n effeithlon wrth sicrhau bod yr orsaf yn parhau i weithredu fel arfer.
Nodiadau i olygyddion
Bydd y prosiect yn cael ei gyflawni fesul cam i sicrhau y caiff yr orsaf ei rhedeg yn esmwyth:
- Cam 1 (O 13 Mehefin): Yn canolbwyntio ar waith galluogi cynnar. Bydd llwybrau cerdded yn aros yn ddigyfnewid i raddau helaeth, gyda'r holl ardaloedd gwaith wedi'u cau i ffwrdd yn ddiogel i gynnal gweithrediadau arferol yr orsaf.
- Cam 2: Prif Waith Adeiladu (Hydref 2026): Bydd y cam nesaf yn gweld cynnydd mewn gweithgaredd o fis Hydref wrth i'r gwaith adeiladu gyflymu. Disgwylir i'r cam hwn gyflawni'r bont droed newydd, y lifft a'r strwythurau cysylltiedig. Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y bydd y safle'n gweld gweithgaredd mwy dwys, gan gynnwys peiriannau mwy, deunydd ychwanegol yn cael eu danfon a newidiadau dros dro i lwybrau cerddwyr.