20 Awst 2024
Mae pont droed gyhoeddus newydd ger gorsaf reilffordd Llandaf yn agor heddiw (dydd Mawrth 20 Awst).
O ganlyniad i drydaneiddio'r rheilffyrdd fel rhan o brosiect Metro De Cymru, ynghyd â chyflwyno gwasanaethau amlach sy'n rhedeg trwy orsaf Llandaf, bydd y bont newydd yn darparu croesfan reilffordd ddiogel i'r gymuned.
Bydd y bont droed hon yn disodli'r groesfan reilffordd wreiddiol a bydd yn cysylltu Heol Wingfield â Chau Colwinstone ar ffurf y llwybr troed cyfredol sy'n rhedeg trwy'r cae chwarae.
Bydd aelodau Tîm Arwain Gweithredol TrC a'r tîm prosiect sy'n ymwneud â dylunio ac adeiladu'r bont yn mynd i seremoni i agor y bont i'r cyhoedd heddiw.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol TrC: “Wrth i ni baratoi ar gyfer cyflwyno trenau tram trydan newydd sbon y flwyddyn nesaf a chynnydd yn amlder gwasanaethau i bedwar trên yr awr o bob un o flaenau'r Cymoedd, y mwyafrif ohonynt yn teithio trwy Landaf, bydd y bont droed hon yn groesfan ddiogel hanfodol i'r gymuned leol.
“Hoffwn longyfarch y tîm sy'n gyfrifol am y prosiect a diolch i drigolion a rhanddeiliaid am eu hadborth a'u hamynedd wrth i'r gwaith fynd rhagddo.”
Enwyd y groesfan reilffordd yn wreiddiol yn ‘Barry Wrides' ar ôl teulu o ffermwyr a oedd yn gweithio ar y tir yn yr ardal ar ddiwedd y 19eg ganrifeg ganrif. Bydd y bont yn parhau i gael ei adnabod fel pont Barry Wrides. Mae perthnasau Barry Wrides, Neil Jellings a'i ŵyr Nate Jackson (8 oed), hefyd wedi cael eu gwahodd i'r digwyddiad i agor y bont.
Yn dilyn agor y bont, mae gan TrC waith i'w wneud o hyd, gan gynnwys tirlunio, draenio a ffensio, a bydd disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn dechrau mis Rhagfyr. Bydd y compownd sydd ar y safle yn cael ei ddatgymalu o Medi 2024, hefyd, bydd y cae chwarae yn cael ei adfer i'w gyflwr blaenorol.
Mae Amco Giffen wedi bod yn gweithio gyda'r gymuned mewn nifer o gynlluniau sydd o fudd i'r gymuned leol. Y mis diwethaf, fe wnaethant blannu blodau yng Nghanolfan Gymunedol Gogledd Llandaf.
Mae carreg a ddefnyddiwyd ar gyfer y pad craen hefyd wedi'i hailgylchu, ei gosod a'i chywasgu a'i defnyddio i lenwi tyllau a thrwsio unrhyw randiroedd cyfagos sydd wedi dirywio.