08 Meh 2026
Mae gosodiad celf newydd wedi cael ei ddatgelu yng ngorsaf Llandudno. Cafodd y gwaith ei greu gan fyfyrwyr o’r ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) leol, fel rhan o brosiect i nodi 200 mlwyddiant rheilffyrdd modern.
Mae myfyrwyr o Ysgol y Gogarth wedi gweithio gyda’r artist lleol Mel Roberts o Mazin Mosaics, athrawon a staff cymorth i greu paneli mosaig lliwgar a ysbrydolwyd gan eu profiadau personol o deithio ar hyd rheilffordd hardd Dyffryn Conwy, hanes y rheilffordd, a’r lleoedd a’r tirnodau sy’n gwneud y rhan hon o Ogledd Cymru mor gofiadwy.
Yn ystod 12 o sesiynau celf wythnosol, a ariannwyd gan Trafnidiaeth Cymru, cafodd y myfyrwyr gyfle i archwilio dylunio, lliw, gweadedd ac adrodd straeon tra’n datblygu sgiliau newydd, meithrin hyder a chydweithio i greu darn o waith celf cyhoeddus. Bydd y gwaith nawr yn cael ei arddangos yn barhaol yng ngorsaf reilffordd Llandudno lle gall teithwyr, ymwelwyr a’r gymuned leol ei fwynhau.
Dywedodd Mel Roberts o Mazin Mosaics: “Mae gweithio gyda disgyblion a staff Ysgol y Gogarth, a Karen (Swyddog Rheilffordd Gymunedol) wedi bod yn hwyl ac yn brofiad gwerth chweil.
"O’r cychwyn cyntaf, mae’r disgyblion wedi dangos diddordeb ac awydd i ddysgu, ac maen nhw wedi dod yn fwy hyderus wrth weithio gyda’i gilydd ac o ran eu sgiliau creu mosaig. Fel finnau, dylen nhw fod yn falch iawn o’r gwaith mosaig hardd.”
Dywedodd Janine Tennant-Jones, Athrawes yn Ysgol y Gogarth: “Mae bod yn rhan o’r prosiect wedi bod yn brofiad dysgu cyfoethog ac ystyrlon iawn i’n dysgwyr. Mae wedi rhoi cyfleoedd gwirioneddol i bobl ifanc ddatblygu eu creadigrwydd, hyder a’u sgiliau cydweithio tra’n ymwneud â’u hardal leol a’u cynefin mewn ffordd bwrpasol a chynhwysol.
“Yn Ysgol y Gogarth, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cyfrannu, perthyn a ffynnu yn eu cymunedau. Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu dyheadau'r Cwricwlwm i Gymru drwy gefnogi dysgwyr brwdfrydig, creadigol ac uchelgeisiol i chwarae rhan weithredol mewn cymdeithas wrth gymryd rhan mewn prosiect cymunedol real a pharhaus.
“Rydyn ni’n hynod o falch o’n dysgwyr a’r waddol maen nhw wedi’i greu i’r gymdeithas ehangach ei fwynhau yng ngorsaf Llandudno am flynyddoedd i ddod.”
Ariannwyd y prosiect gan Trafnidiaeth Cymru a’i ddarparu gan Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru, fel rhan o ddathliadau ehangach Rheilffordd 200, sy’n nodi dwy ganrif ers genedigaeth rheilffyrdd modern tra’n edrych ymlaen i’r genhedlaeth nesaf o ddefnyddwyr rheilffyrdd ac arloeswyr yn y maes.
Dywedodd Melanie Lawton, Swyddog Arweiniol Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: "Mae Llandudno yn cael ei galw’n Frenhines Cyrchfannau Gwyliau Cymru, ac mae’r prosiect hwn gydag Ysgol y Gogarth wedi cysylltu’r gymuned â’r rheilffordd mewn ffordd hyfryd iawn.
"Mae’r gwaith celf yn creu teimlad o le, ac yn rhoi rhywbeth i’n teithwyr yng ngorsaf Llandudno ei fwynhau."
Dywedodd Karen Williams, Swyddog Rheilffordd Gymunedol Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru: “Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda staff a disgyblion Ysgol y Gogarth ar y prosiect diweddaraf hwn.
"Wythnos ar ôl wythnos, dangosodd y disgyblion benderfyniad ac angerdd eithriadol yn eu gwaith celf. Gwnaethon nhw ddefnyddio defnyddiau ac offer yn ddiogel, a gyda pharch a gofal mawr, tra’n cydweithio i greu’r darnau gwych hyn.
"Ar ran y Bartneriaeth, hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r prosiect am eu gwaith caled, brwdfrydedd, ac ymroddiad.”
Mae seremoni dadorchuddio swyddogol y gwaith celf yn cyd-fynd ag Wythnos Rheilffyrdd Cymunedol (1 - Mehefin), dathliad cenedlaethol blynyddol o’r bobl, partneriaethau a phrosiectau sy’n helpu i gysylltu cymunedau drwy’r rheilffyrdd.
Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru yn falch o nodi’r wythnos drwy roi sylw i brosiect sy’n hybu cynhwysedd ac ymgysylltiad cymunedol tra’n gwneud yr orsaf yn rhywle sy’n adlewyrchu’r gymuned mae hi’n ei gwasanaethu.
Nodiadau i olygyddion
- Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru (y Bartneriaeth) yn Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol sydd wedi’i hachredu gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, yr Adran Drafnidiaeth (DfT) a Llywodraeth Cymru, ac mae’n gweithio i gysylltu cymunedau â’u rheilffordd.
- Mae’r Bartneriaeth yn gweithio gyda chymunedau ar hyd lein Dyffryn Conwy o Landudno i Flaenau Ffestiniog a Lein Arfordir Gogledd Cymru o Gaergybi i Shotton.
- Groundwork Gogledd Cymru sy’n cynnal y Bartneriaeth; mae Groundwork yn elusen sy’n ceisio gweithio gyda chymunedau lleol i wella llesiant.
- Mae Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol yn gorff sy’n cynrychioli partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau sy’n mabwysiadu gorsafoedd ym Mhrydain.
- Wythnos Rheilffyrdd Cymunedol (1 – 7 Mehefin 2026) yw’r ymgyrch genedlaethol sy’n dathlu gwaith partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau gwirfoddol gorsafoedd ledled Prydain.