24 Medi 2026
Mae Edwards Coaches wedi cael eu penodi i weithredu TaithCymru, gwasanaeth coets newydd Trafnidiaeth Cymru sy'n cysylltu gogledd a de-orllewin Cymru yn uniongyrchol.
Bydd y cwmni yn darparu'r gwasanaeth mewn partneriaeth â Llew Jones.
Gan lansio ar 25 Hydref 2026, bydd TaithCymru yn rhedeg naw taith ddwyffordd bob dydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin, gan alw yng Nghaernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Prifysgol Aberystwyth, Gorsaf Fysiau Aberystwyth ac Aberaeron.
Bydd un daith hwyr y nos bob dydd yn ymestyn y tu hwnt i Fangor i Orsaf Reilffordd a Phorthladd Caergybi, gan wella cysylltiadau â gwasanaethau rheilffordd a fferi i gwsmeriaid sy'n teithio i ac o Ynys Môn, Iwerddon ac ar draws gogledd Cymru.
Edwards Coaches fydd y prif weithredwr, a fydd yn cydweithio â Llew Jones i ddarparu gwasanaeth dibynadwy o ansawdd uchel ar ran Trafnidiaeth Cymru.
Mae'r ddau weithredwr bellach yn recriwtio gyrwyr i helpu i ddarparu'r gwasanaeth newydd, gan greu cyfleoedd i bobl ymuno â'u timau cyn y lansiad ym mis Hydref.
Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio yn Trafnidiaeth Cymru: “Mae'r penodiad hwn yn gam pwysig tuag at roi ffordd newydd i gwsmeriaid deithio ar draws Cymru.
“Bydd TaithCymru yn cynnig cysylltiad uniongyrchol, cyfforddus a chyfleus rhwng gogledd a de-orllewin Cymru, gan leihau amseroedd teithio hyd at awr a gwneud hi'n haws teithio at ddibenion gwaith, addysg, gofal iechyd a hamdden neu i ymweld â theulu a ffrindiau.
"Bydd yr estyniad dyddiol i Gaergybi yn hwyr y nos hefyd yn cryfhau cysylltiadau ag Ynys Môn, Iwerddon a’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ehangach. Mae Edwards Coaches a Llew Jones yn dod â phrofiad gwerthfawr a gwybodaeth leol ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw i ddarparu gwasanaeth y gall cwsmeriaid ddibynnu arno."
Dywedodd Jessica Thomas o Edwards Coaches: “Rydym yn falch o gael ein dewis fel y prif weithredwr ar gyfer TaithCymru. Mae hon yn wasanaeth newydd cyffrous a fydd yn gwneud teithiau ar draws Cymru yn gynt ac yn symlach, ac rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Llew Jones i'w wireddu.
“Rydym bellach yn recriwtio gyrwyr i ymuno â’n tîm a’n helpu i ddarparu’r gwasanaeth cyfeillgar a dibynadwy y mae ein cwsmeriaid yn ei ddisgwyl.”
Dywedodd Steve Jones o Llew Jones: “Rydym yn falch iawn o bartneru ag Edwards Coaches i ddarparu TaithCymru. Bydd y gwasanaeth yn creu cysylltiadau gwell i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac yn agor opsiynau teithio mwy cynaliadwy.
"Rydym hefyd yn chwilio am yrwyr i ymuno â ni a chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno'r cysylltiad newydd pwysig hwn."
Mae TaithCymru yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella cysylltiadau ledled Cymru a’r uchelgais ehangach ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus mwy integredig, gan roi dewis ymarferol a chynaliadwy i gwsmeriaid ar gyfer teithiau hirach.
Bydd tocynnau yn mynd ar werth ddydd Mawrth 6 Hydref. Bydd rhagor o wybodaeth am brisiau tocynnau, archebu a’r gwasanaeth newydd ar gael ar ein gwefan yn fuan.
Nodiadau i olygyddion
- Bydd TaithCymru yn cael ei lansio ar 25 Hydref 2026
- Bydd y gwasanaeth yn rhedeg naw gwaith y dydd rhwng Gorsaf Reilffordd Bangor a Gorsaf Reilffordd Caerfyrddin. Bydd un daith hwyr y nos bob dydd yn ymestyn i Orsaf Reilffordd a Phorthladd Caergybi.
- Bydd modd prynu tocynnau ar-lein o ddydd Mawrth 6 Hydref.
- Mae wyth coets newydd wedi'u prynu i weithredu'r gwasanaeth.
- Bydd y llwybr craidd yn galw yng Ngorsaf Reilffordd Bangor, Caernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Prifysgol Aberystwyth, Gorsaf Fysiau Aberystwyth ac Aberaeron cyn cyrraedd Gorsaf Drenau Caerfyrddin.
- Disgwylir i'r daith lawn rhwng Bangor a Chaerfyrddin gymryd tua 5 awr. Gall amserlenni newid, a dylai cwsmeriaid wirio cyn teithio.
- Mae Edwards Coaches a Llew Jones yn recriwtio gyrwyr i gefnogi’r broses o gyflwyno TaithCymru.
- Gan gynnig ffordd symlach o deithio ar draws Cymru, bydd y gwasanaeth uniongyrchol hyd at 60 munud yn gynt na’r gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus presennol, heb fod angen newid cerbyd na dull teithio. Bydd yn gwneud teithiau’n haws i fyfyrwyr, cymudwyr, ymwelwyr a phobl sy’n teithio ar gyfer gofal iechyd, diwrnodau allan, ymweld â theulu a ffrindiau ac ymweld â theatrau, sinemâu a bwytai.
- Bydd cwsmeriaid yn teithio ar goetsys sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, sy'n gyfforddus ac sydd â lle pwrpasol ar gyfer bagiau. Mae'r amserlen wedi'i llunio i gysylltu â gwasanaethau rheilffordd, bysiau lleol, bysiau TrawsCymru a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus eraill, gan ei gwneud yn haws parhau â theithiau ar draws Cymru.