17 Tach 2021
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dod yn fuddugol yng Ngwobrau Gwerth Cymdeithasol Cenedlaethau'r Dyfodol am sicrhau gwerth cymdeithasol wrth adeiladu ei bencadlys newydd ym Mhontypridd.
Derbyniodd TrC Wobr Cenedlaethau'r Dyfodol Ffyniannus mewn seremoni wobrwyo ar-lein fel rhan o'r Gynhadledd Genedlaethol Gwerth Cymdeithasol: Cymru, a gynhaliwyd ar 16-17 Tachwedd. Mae'r Gwobrau Gwerth Cymdeithasol ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol yn dathlu arloesedd, arweinyddiaeth ac arfer da gwerth cymdeithasol yng Nghymru sydd hefyd yn gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Roedd y wobr yn cydnabod y gwaith y mae TrC wedi'i wneud i sicrhau trosglwyddiad cynaliadwy i'r swyddfeydd newydd yn Llys Cadwyn. Ffurfiodd TrC bartneriaeth gyda Rype Office a menter gymdeithasol Sefydliad y Deillion Merthyr, i adnewyddu dodrefn a dod o hyd i ddodrefn ail-law yn hytrach na phrynu dodrefn newydd sbon, yn aml un o'r cyfranwyr mwyaf at ôl troed carbon cyfleusterau newydd. Dim ond 19% o'r dodrefn yn y swyddfa sy'n newydd, a daeth 13% o ffynonellau lleol, gan arbed bron i 93 tunnell o CO2.
Mae adeilad y swyddfa hefyd yn cynnwys systemau pŵer solar a chynaeafu dŵr, ac fe greoedd y gwaith adeiladu a ffitio swyddi i bobl leol hefyd. Dyluniwyd y tu mewn i'r adeilad yn ofalus i adlewyrchu gwerthoedd sefydliadol TrC yn ogystal ag anghenion ei staff, gyda phwyslais cryf ar harneisio arferion gweithio cydweithredol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant hefyd wedi dylanwadu ar y dyluniad, gydag ystafell adlewyrchu ac ystafelloedd newid a thoiledau nad ydynt yn ddeuaidd ar gael i staff ac ymwelwyr.
Dywedodd Natalie Rees, Rheolwr Datblygu Cynaliadwy TrC:
“Rydyn ni wrth ein bodd bod gwaith caled tîm TrC wrth gyflawni ei drosglwyddiad llwyddiannus a chynaliadwy i Bontypridd wedi cael ei gydnabod. Mae datblygu cynaliadwy wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym yn gweithio i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a helpu i gyfrannu at Gymru fwy cynaliadwy.”