Skip to main content

First year anniversary for Transport for Wales

14 Hyd 2019

Mae hi’n ben-blwydd cyntaf Trafnidiaeth Cymru heddiw. Mae hi’n flwyddyn ers iddo ddod yn gyfrifol am wasanaethau rheilffyrdd ar draws Cymru a’r Gororau a dechrau’r rhaglen buddsoddi sy’n werth £5 biliwn.

Dros y deuddeg mis diwethaf maer TrC wedi rhoi cwsmeriaid wrth galon pob penderfyniad ac fel diolch iddynt, mae TrC yn cynnig 20% oddi ar docynnau advance sy’n cael eu prynu rhwng 14 a 20 Hydref ar gyfer teithio tan 26 Tachwedd.

Mae rhai o brif lwyddiannau’r flwyddyn yn cynnwys creu’r cynllun tocynnau advance, sy’n golygu bod teithiau dros 50 milltir yn rhatach; cafodd ad-daliad am oedi 15 ei lansio er mwyn i gwsmeriaid allu hawlio am unrhyw oedi sy’n para 15 munud neu fwy; a gweithredu’r mesurau perfformiad newydd a gafodd eu dylunio i ddarparu gwasanaethau sy’n fwy dibynadwy a phrydlon.

Dechreuodd TrC hefyd ar gynllun gwerth £194 miliwn i wella pob gorsaf drenau ar draws y rhwydwaith ac ymrwymodd i wario dros £600,000 y flwyddyn ar Bartneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol, gan greu rolau llysgenhadon cymunedol, a fydd yn gyfrifol am hyrwyddo twristiaeth ranbarthol a thwf economaidd lleol.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru;

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn gyntaf gyffrous a heriol ac rydyn ni’n falch ein bod wedi dechrau trawsnewid y gwasanaeth rheilffordd ar gyfer pobl Cymru drwy wireddu ein haddewidion.

“Rydyn ni’n rhoi rhaglenni uchelgeisiol ar waith a fydd yn ein helpu i wella’r profiad i gwsmeriaid. Mae’r gwaith wedi dechrau ar ein gorsafoedd trenau; gan eu moderneiddio, eu gwneud yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i fusnesau ac i gymunedau lleol. Roedden ni wedi llwyddo i ailgyflwyno gwasanaethau rheolaidd i deithwyr ar hyd Halton Curve, gan ddarparu 215 o wasanaethau newydd bob wythnos a chynnig trenau rhwng Wrecsam a Lerpwl am y tro cyntaf mewn 40 o flynyddoedd.

“Rydyn ni wedi cyflwyno trenau ychwanegol ar ein rhwydwaith a bydd ein newidiadau i amserlen mis Rhagfyr yn cynyddu hyd yn oed rhagor ar gapasiti ar draws ein llwybrau prysuraf.

“Y tu ôl i’r llenni mae llawer iawn o waith cynllunio a pharatoi manwl wedi bod yn digwydd er mwyn darparu'r gwasanaethau Metro ar draws Cymru, cyflwyno trenau newydd sbon a’r weledigaeth i greu rhwydwaith trafnidiaeth sydd wir yn integredig.

“Yn ogystal â’n cwsmeriaid, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n holl staff am eu hymroddiad dros y flwyddyn a diolch i’r partneriaid ac i’r busnesau rydyn ni wedi gweithio gyda nhw.”

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“A hithau’n flwyddyn ers i ni ddechrau ar ein taith uchelgeisiol i wella gwasanaethau rheilffyrdd rwy’n credu ei bod hi’n bwysig cydnabod y camau breision sydd wedi cael eu cymryd. Mae gwasanaethau newydd wedi cael eu cyflwyno a thocynnau advance newydd a, chyn bo hir, byddwn yn gweld capasiti ychwanegol ar rai o’n llwybrau prysuraf. Rydyn ni hefyd wedi amlinellu pecyn buddsoddi uchelgeisiol gwerth £194m i wella pob gorsaf yng Nghymru.

“Mae hi’n amlwg bod heriau mawr ac y bydd y daith hon yn cymryd amser, ond mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid trafnidiaeth ar draws Cymru er mwyn cyflawni rhwydwaith sydd wir yn integredig, gyda chwsmeriaid wrth galon popeth. Rydyn ni wedi amlinellu gweledigaeth i drawsnewid rheilffyrdd yng Nghymru – gan gynnwys datblygu systemau Metro – a bydd Trafnidiaeth Cymru yn parhau i chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gyflawni hyn.”

Nodiadau i olygyddion


Trafnidiaeth Cymru – Llwyddiannau’r 12 mis cyntaf

Lansio’r cynllun tocynnau cyntaf
Rydyn ni wedi creu dros 3000 o docynnau advance newydd, sy’n golygu ei bod hi’n rhatach nag erioed teithio ar nifer o deithiau dros 50 milltir.

Lansio gwasanaethau newydd yn llwyddiannus
Drwy ail-agor trac Halton Curve, rydyn ni wedi lansio 215 o wasanaethau newydd yr wythnos, gan gynnig trenau rhwng Wrecsam a Lerpwl am y tro cyntaf mewn 40 o flynyddoedd a darparu cyswllt bob awr rhwng Swydd Gaer a Lerpwl. Bydd y cysylltiad gwell yn golygu hwb economaidd sylweddol i’r rhanbarth.

Ad-daliad am Oedi 15
Am y tro cyntaf erioed, bydd cwsmeriaid rheilffordd yng Nghymru a’r Gororau yn gallu hawlio am achosion o oedi am ddim ond 15 munud. Mae oedi o 15 munud yn fater o bwys i’n cwsmeriaid, felly mae hyn o fudd mawr iawn iddyn nhw ac mae’n dangos ein bod ni’n cydnabod hynny.

Mwy o le ar drenau
Ym mis Mai, roedden ni wedi cyflwyno cerbydau ychwanegol, gan gynnwys dod â’r trenau Dosbarth 37 wedi’u tynnu gan locomotif yn ôl er mwyn rhoi capasiti ychwanegol ar Reilffordd Rhymni. Bydd rhagor o drenau ychwanegol yn cyrraedd erbyn ein newidiadau i amserlen mis Rhagfyr, gan gynnwys 12 o drenau modern Dosbarth 170.

Lansio Gweledigaeth Rheilffyrdd Cymunedol
Bydd y weledigaeth yn golygu bod Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol newydd yn cael eu sefydlu ledled rhwydwaith Cymru a’r Gororau i hyrwyddo ac i hybu defnyddio rheilffyrdd mewn cymunedau. Bydd dros £600,000 yn cael ei fuddsoddi bob blwyddyn, gyda 22 o rolau llysgenhadon cymunedol newydd yn cael eu creu ochr yn ochr â rolau marchnata a fydd yn canolbwyntio ar hyrwyddo twristiaeth ranbarthol a thwf economaidd lleol. Gallwch ddarllen y weledigaeth yma.

Mesurau perfformiad newydd
Mae ein teithwyr yn haeddu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n ddibynadwy ac yn brydlon, felly rydyn ni wedi cyflwyno set o dargedau newydd ynghylch perfformiad trenau, sy’n canolbwyntio ar y teithwyr ac wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer TrC. Mae’r rhain yn cynnwys mesur yr amser mae teithwyr yn ei golli, trefniannau byr, a chanran y gorsafoedd sy’n cael eu methu.

Creu 120 o swydd newydd
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi creu mwy na 120 o swyddi newydd ers cymryd yr awenau i redeg gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau yn 2018. Maen nhw’n amrywio o swyddi peirianyddol a dylunio i wasanaethau cwsmeriaid a swyddi glanhau. Efallai eich bod hefyd wedi gweld ein staff yn ein hymgyrchoedd hysbysebu ar y teledu’n ddiweddar.

Cardiau Teithio Rhatach
Rydyn ni wedi cyflawni carreg filltir bwysig yn ein prosiect bws cyntaf i Gymru gyfan. Mae TrC yn arwain y gwaith o gyflwyno math newydd o Gerdyn Teithio Rhatach, i sicrhau cysondeb ar draws Cymru. Dechreuodd y 22 awdurdod lleol gyhoeddi’r math newydd o Gardiau Teithio Rhatach i ymgeiswyr newydd ar 17 Mehefin, ac mae’r rheini sydd eisoes â cherdyn wedi gallu gwneud cais am y cardiau newydd ers mis Medi.

Lansio Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd
Ym mis Medi, roedden ni wedi lansio ein Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd. Rydyn ni’n buddsoddi £194 miliwn ym mhob gorsaf ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau, gan gynnwys darparu gwybodaeth well i deithwyr, arwyddion newydd, llochesi gwell ar blatfformau a chyfleusterau gwell i storio beics. Rydyn ni hefyd yn gwneud ein gorsafoedd yn fwy diogel, gyda CCTV ym mhob un o’r gorsafoedd.

Metro De Cymru
Rydyn ni wedi dechrau ar gamau cyntaf prosiect Metro De Cymru. Mae gwaith cynllunio a pharatoi manwl yn mynd rhagddo, ac rydyn ni hefyd wedi dechrau gweithio ar y safle yn y depo tram-drenau Metro newydd yn Ffynnon Taf a’r depo seilwaith newydd yn Nhrefforest.