Skip to main content

Don’t let the car drive your day

21 Awst 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a Croeso Cymru wedi dod ynghyd i annog teithwyr i ddefnyddio'r trên i ymweld â rhai o leoliadau twristiaeth gorau'r wlad ac ymestyn y tymor twristiaeth prysur i'r hydref. 

Mae'r ymgyrch newydd yn canolbwyntio ar bedwar lleoliad trawiadol, Aberystwyth, Conwy, Cas-gwent a Dinbych-y-pysgod.

Maent i gyd yn hawdd eu cyrraedd ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru a gyda chynigion gan gynnwys 50% oddi ar bris tocyn trên Advance, taith dren i’r plant am ddim a mynediad 2 am bris 1 i safleoedd Cadw ledled Cymru, maent yn cynnig gwerth rhagorol am arian.

Wrth groesawu'r bartneriaeth newydd, dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Mae ymweld â Chymru ar y trên yn ffordd wych o deithio i rai o'n cyrchfannau gwyliau mwyaf eiconig.  Gyda’r cynnig ‘plant i deithio am ddim’, mae'n opsiwn fforddiadwy i deuluoedd sydd am wneud y gorau o  wythnosau olaf gwyliau'r haf, cynllunio gwyliau'r hydref neu aros yn hirach i fwynhau hwyl rhagorol ac anturiaethau cyffrous. 

"Rwy'n falch iawn bod Croeso Cymru yn cydweithio â Thrafnidiaeth Cymru i hyrwyddo’r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig.”

Dywedodd Victoria Leyshon, Rheolwr Marchnata Partneriaeth TrC: “Pleser o'r mwyaf yw gallu gweithio gyda Croeso Cymru i arddangos y gorau sydd gan Gymru i'w gynnig a helpu pobl i deithio'n fwy cynaliadwy ar drafnidiaeth gyhoeddus.

“Mae gennym rai cynigion rhagorol i arbed arian ar docynnau trên ac ynghyd â'n cynigion partner ar gyfer mynediad i atyniadau, mae rhywbeth at ddant pawb.

Mae gan wefan TrC awgrymiadau a chynghorion am bethau i'w gwneud a ffyrdd o dreulio penwythnos ym mhob un o'r pedwar lleoliad.

Llwytho i Lawr