27 Medi 2022
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn cydweithio i gyflwyno modiwl unigryw ym maes modelu trafnidiaeth i fyfyrwyr y rhaglen Trafnidiaeth a Chynllunio (MSc).
Dan arweiniad arbenigwyr academaidd a phroffesiynol yn y maes, mae'r modiwl yn cyflwyno’r sylfeini damcaniaethol o ran modelu trafnidiaeth a hefyd yn rhoi profiad ymarferol gwerthfawr o ddefnyddio meddalwedd sy’n arwain y byd ym maes modelu trafnidiaeth. Mae hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu trwytho yn yr wybodaeth ddamcaniaethol a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnynt gan roi dechrau da iddynt o ran ymgeisio am swyddi ôl-raddedig.
Bydd gan fyfyrwyr fynediad at feddalwedd arbenigol, o'r enw VISUM, a ddefnyddir ar hyn o bryd i fodelu rhwydweithiau trafnidiaeth a'r galw am deithio, ac ar gyfer datblygu strategaethau ac atebion i heriau o ran trafnidiaeth. Mae TrC yn defnyddio'r feddalwedd fodelu hon ym mhob un o'r tri model trafnidiaeth rhanbarthol sy’n creu rhwydwaith manwl y seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru.
Bydd defnyddio'r feddalwedd ynghyd â dysgu ynghylch elfennau sylfaenol modelu trafnidiaeth, yn caniatáu i fyfyrwyr ddeall sut mae’n cael ei defnyddio a sut mae'n cefnogi datblygiadau o ran cynlluniau trafnidiaeth yng Nghymru trwy ddefnyddio data ac achosion defnydd o'r byd go iawn.
Dywedodd Dimitris Potoglou, Cyfarwyddwr y Rhaglen Trafnidiaeth a Chynllunio (MSc): “Am yr ail flwyddyn, rydym yn ffodus iawn i gydweithio â chydweithwyr yn Trafnidiaeth Cymru er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i’r agweddau damcaniaethol ac ymarferol sydd ynghlwm â chynllunio a modelu trafnidiaeth. Mantais arall y fenter hon yw ein bod yn defnyddio data a modelau go iawn a ddatblygwyd ar gyfer Cymru, sy'n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu a phrofi eu strategaethau trafnidiaeth eu hunain gan ddefnyddio data o'r byd go iawn ac asesu effeithiolrwydd eu datrysiadau arfaethedig.”
Dywedodd Rhian Watts, Pennaeth Modelu Trafnidiaeth Cymru: “Rwyf wedi mwynhau'r cyfle i gefnogi Prifysgol Caerdydd a'r myfyrwyr sy'n ymgymryd â'r MSc. Mae'r cwrs yn defnyddio un o Fodelau Trafnidiaeth Rhanbarthol Llywodraeth Cymru/Trafnidiaeth Cymru ac rydym wedi defnyddio sawl sefyllfa a phroblem o’r byd go iawn yn ystod y cwrs er mwyn dangos pwysigrwydd modelu ac arfarnu wrth lunio dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru. Yr wyf wedi cael llawer o fudd a mwynhad o’r profiad.”