Skip to main content

Piano Party at Cardiff Central for Global Stars!

10 Meh 2024

Yn ddiweddar, cafodd teithwyr rheilffordd yng ngorsaf drenau Caerdydd Canolog fwynhau clywed caneuon Pink, Taylor Swift, Foo Fighters a Billy Joel – ond gyda thro clasurol!

Bydd y sêr byd enwog hyn yn perfformio yn Stadiwm Principality dros yr wythnosau nesaf.  Pink fydd “yn dechrau'r parti” (!!) ddydd Mawrth.

I ddathlu eu hymweliad â'r ddinas, rhoddodd Trafnidiaeth Cymru wahoddiad i gerddorion ifanc o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed eleni, i chwarae rhai o’u caneuon enwocaf - ond ar biano clasurol!

Chwaraeodd Chloe Clayton a Jason Sones, dau fyfyriwr Coleg Brenhinol Cymru, amrywiaeth o ganeuon enwog gan gynnwys, ‘You Belong with Me’ gan Taylor Swift, ‘Best of You’ gan Foo Fighters, ac wrth gwrs, ‘Piano Man’ gan Billy Joel.

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Diwylliant a Chwsmeriaid TrC:

“Rydym eisoes wedi darparu gwasanaethau trên ar gyfer nifer o ddigwyddiadau mawr eleni gan gynnwys rygbi'r chwe gwlad, y gemau pêl-droed ac yn fwyaf diweddar, gig Bruce Springsteen. Mae pob digwyddiad yn denu degau o filoedd o bobl i'r brifddinas o fewn amserlen fach.

“Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at y gigau hyn yr haf hwn ac yn barod i ddarparu gwasanaethau trên i'r rhai fydd yn teithio i mewn ac allan o'r ddinas.

“Mae wedi bod yn wych croesawu myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i Gaerdydd Canolog i ddiddanu ein cwsmeriaid ar y piano. Fe wŷr pawb bod Cymru yn caru cerddoriaeth.  Pa ffordd well na hyn i ddathlu hynny?”

Ychwanegodd Chloe, myfyriwr blwyddyn olaf CBCDC:

“Fe wnes i fwynhau chwarae'r piano mewn lleoliad mor arbennig, i gynulleidfa wahanol.  Roedd rhai yn pasio heibio ac eraill yn oedi i wrando.

“Roedd yn hyfryd cael cyfle i drosi'r caneuon pop hyn. Roedd hyn yn wahanol i'r hyn 'ryn ni'n arfer ei wneud.  Gan taw hyfforddiant clasurol a gawn yn CBCDC, cerddoriaeth glasurol 'ryn ni fel arfer yn chwarae.  Wnes i fwynhau archwilio sut y gallai'r hyfforddiant hwn fod yn berthnasol a sut y gellid ei addasu i'r genre pop a roc.”