12 Ion 2024
Mae Trafnidiaeth Cymru yn ymuno â’r Samariaid er mwyn annog cwsmeriaid, staff, a’r gymuned ehangach i rannu diod boeth ar ddiwrnod Paned Dydd Llun.
Cyfeirir weithiau at y trydydd dydd Llun ym mis Ionawr (15fed) fel diwrnod anoddaf y flwyddyn a gelwir yn aml yn ‘Ddydd Llun Llwm’ (Blue Monday). O ganlyniad, rydym yn troi’r diwrnod mewn i rywbeth positif drwy gefnogi ymgyrch ‘Paned Dydd Llun’ y Samariaid.
Ers amser, mae’r Samariaid wedi ymgyrchu dros chwalu’r syniad fod y trydydd dydd Llun ym mis Ionawr yn arbennig o anodd oherwydd gall annog pobl i beidio â gofyn am help a allai newid eu bywydau. Mae gwirfoddolwyr gwrando’r elusen sy’n gweithio i atal hunanladdiad yn brysur bob dydd o’r flwyddyn, gan ymateb i alwad am help bob 10 eiliad. Dyma pam mae’n rhedeg diwrnod ‘Paned Dydd Llun’ gyda’r diwydiant rheilffyrdd i droi’r diwrnod mewn i rywbeth defnyddiol.
Er mwyn dathlu a chodi ymwybyddiaeth o ddiwrnod ‘Paned Dydd Llun’, bydd staff Trafnidiaeth Cymru yn ymuno â gwirfoddolwyr y Samariaid mewn gorsafoedd ar draws ein rhwydwaith i ddosbarthu bagiau te a siarad â chwsmeriaid am bŵer cysylltu ag eraill dros baned.
Dywedodd Chris Williams, Rheolwr Cydnerthedd Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Rydym yn falch o gefnogi diwrnod ‘Paned Dydd Llun’ y Samariaid unwaith eto eleni ac rydym wedi ymrwymo i rannu’r neges hanfodol hon gyda’n cwsmeriaid a’n staff.
Mae’r Samariaid wedi gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiant rheilffyrdd ers 2010 gan annog y cyhoedd a’n staff i gydnabod pŵer cysylltu â’n gilydd a dechrau sgwrs a allai achub bywyd.
Rydym yn rhoi hynny ar waith trwy droi ‘Dydd Llun Llwm’ i mewn i ‘Paned Dydd Llun’ ac o ganlyniad, cysylltu â’n gilydd a chefnogi gwaith hanfodol pwysig yr elusen.”
Dywedodd Olivia Cayley, Pennaeth Rhaglen Reilffyrdd y Samariaid:
“Rydyn ni yn y Samariad yn gwybod bod dim siwd beth â ‘Dydd Llun Llwm’ a gall bobl deimlo’n isel ar unrhyw adeg o’r wythnos neu’r flwyddyn.
“Gall barhau â’r syniad o ‘Ddydd Llun Llwm’ annog rhywun i beidio â gofyn am help a allai newid eu bywydau gan ei fod yn rhoi’r argraff fod pawb arall yn teimlo’n isel hefyd.
“Gallai hefyd arwain pobl i feddwl y dylent deimlo’n drist, neu gredu bod pobl eraill mewn sefyllfaoedd gwaeth. Nid ydym eisiau i unrhyw un ddiystyru na lleihau’r problemau heriol maent yn eu hwynebu.
“Rydym am i bawb wybod nad ydynt byth ar eu pen eu hunain a gall dreulio cyfnodau byr fel hyn, ymysg pobl eraill, chwarae rhan fawr mewn helpu pobl sy’n dioddef ar hyn o bryd.
“Rydym mor ddiolchgar i’r diwydiant rheilffyrdd am gefnogi diwrnod ‘Paned Dydd Llun’ eto eleni.”
Mae cefnogaeth o’r ymgyrch ‘Paned Dydd Llun’ yn dod fel rhan o raglen atal hunanladdiad y diwydiant rheilffyrdd a’i barteneriaeth â Network Rail.
Mae’r Samariaid wedi gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiant rheilffyrdd a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i leihau hunanladdiad ar y rheilffordd ers dros 10 mlynedd, ac mae wedi hyfforddi dros
28,000 o staff y rheilffordd a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i ofalu am gwsmeriaid a dechrau sgwrs os ydynt yn teimlo fod rhywun efallai yn fregus.
Gall unrhyw un gysylltu â’r Samariaid yn rhad ac am ddim, ar unrhyw adeg, o unrhyw ffôn ar 116 123 neu e-bostio jo@samaritans.org neu mynd i www.samaritans.org
Nodiadau i olygyddion
· Mae’r Samariaid yn annog hysbysu cyfrifol o hunanladdiad. Darllenwch fwy am hyn ar ein tudalen media guidelines page.
Gwybodaeth am y Samariaid
· Gall unrhyw un gysylltu â’r Samariaid YN RHAD AC AM DDIM ar unrhyw adeg o unrhyw ffôn ar 116 123, hyd yn oed o ffôn symudol heb gredyd. Ni fydd y rhif hwn yn dangos ar eich bil ffôn. Neu gallwch e-bostio jo@samaritans.org neu mynd i www.samaritans.org
· Pob 10 eiliad, mae’r Samariaid yn ymateb i alwad am help. · Gallwch ddilyn y Samariaid ar gyfryngau cymdeithasol Twitter, Facebook neu Instagram.
· Mae’r Samariaid wedi gweithio mewn partneriaeth â Network Rail a’r diwydiant rheilffyrdd ehangach ers 2010 er mwyn lleihau hunanladdiadau a chefnogi’r rheini sydd wedi’u heffeithio ganddynt. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â chwsmeriaid drwy ddigwyddiadau allgymorth gyda gwirfoddolwyr lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o wasanaeth hanfodol pwysig yr elusen mewn achub bywydau a chefnogi ymgyrchoedd fel diwrnod ‘Paned Dydd Llun’.