15 Hyd 2026
Sut arweiniodd casét cerddoriaeth Gymraeg a brynwyd yn America at fywyd yng Nghymru a dysgu siarad Cymraeg yn rhugl i weithiwr TrC
Mae gweithiwr gyda Trafnidiaeth Cymru o Washington DC wedi rhannu sut ysbrydolodd angerdd am gerddoriaeth Gymraeg ef i ddysgu Cymraeg a dod yn siaradwr rhugl.
Datblygodd Ed Reid, Rheolwr Cynllunio Rhwydwaith Bysiau gyda Trafnidiaeth Cymru sydd â gwreiddiau Cymreig, ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg ymhell cyn symud i Gymru. Tra oedd yn byw yn Ohio, prynodd ei gasét cerddoriaeth Gymraeg cyntaf, gan ddechrau cysylltiad â Chymru a fyddai’n siapio pennod nesaf ei fywyd.
Yn wreiddiol o Washington DC, symudodd Ed i'r DU yn ddiweddarach, gan weithio mewn amrywiaeth o swyddi ledled y DU ac yng Nghymru.
Ar ôl gwneud Wrecsam yn gartref iddo’i hun a’i wraig, sy’n wreiddiol o Fangor, dechreuodd Ed ddysgu Cymraeg trwy Popeth Cymraeg yn Ninbych.
Parhaodd i ddatblygu ei sgiliau iaith dros y blynyddoedd a chwblhaodd raglen Meistroli Cymraeg trwy gyfuniad o arholiadau ac asesiadau ymarferol.
Mae bellach wedi bod yn siaradwr Cymraeg rhugl ers deng mlynedd.
Ymunodd Ed â Trafnidiaeth Cymru ac mae bellach yn gweithio fel Rheolwr Cynllunio Rhwydwaith Bysiau, gan helpu i gynllunio llwybrau bysiau a’r rhwydwaith bysiau ehangach ledled Cymru.
Mae ei rôl hefyd wedi rhoi mwy o gyfle iddo ddefnyddio ei Gymraeg yn broffesiynol.
Dywedodd Ed: “Dechreuais ddysgu Cymraeg pan symudais i Gymru ym 1999. Cyn i mi ddechrau dysgu’r iaith yn iawn, dechreuais wrando ar gerddoriaeth Gymraeg, a chwaraeodd hynny ran fawr yn fy nhaith ddysgu.
“Bellach, fel siaradwr Cymraeg rhugl, un o’r pethau rwy’n eu mwynhau’n fawr am fy rôl gyda Trafnidiaeth Cymru yw cael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd. Rwy’n ei defnyddio mwy yma nag yn unrhyw le gwaith arall.
“Byddwn yn annog pobl i siarad Cymraeg mor aml â phosibl ac i ymgolli yn yr iaith lle bynnag y bo modd. Gall hyd yn oed rhywbeth mor syml â dweud ‘diolch’ wneud gwahaniaeth mawr. Rwy’n ceisio ei ddefnyddio ar ddiwedd pob sgwrs.”
Mae angerdd Ed dros ddiwylliant Cymru yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r gweithle; mae'n aelod balch o Gymdeithas Gymraeg Washington DC, sy'n dod â siaradwyr Cymraeg a dysgwyr o bob cwr o'r byd ynghyd – pobl sy'n rhannu cysylltiad â Chymru a Washington DC.
Ar ôl sôn am ei angerdd dros gerddoriaeth a radio Cymraeg, mwynhaodd Ed yn arbennig weld yr Eisteddfod yn dod i'w dref enedigol, Wrecsam, y llynedd; rhoddodd hyn gyfle iddo fwynhau'r iaith, y gerddoriaeth a'r awyrgylch yn ei ardal leol.
Mae Ed hefyd yn cyflwyno ei raglen radio cerddoriaeth Gymraeg ei hun, gan rannu ei angerdd dros gerddoriaeth Gymraeg â gwrandawyr yn yr Unol Daleithiau a Chanada.
Dywedodd Lowri Joyce, Pennaeth yr Iaith Gymraeg yn TrC: "Mae stori Ed yn enghraifft wych o sut y gall y Gymraeg gysylltu pobl o bob cwr o'r byd. O ddarganfod cerddoriaeth Gymraeg i ddod yn siaradwr Cymraeg rhugl a defnyddio'r iaith bob dydd yn ei rôl yn Trafnidiaeth Cymru, mae ei daith yn dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb.
"Fel sefydliad sy'n falch o fod yn ddwyieithog, rydym wedi ymrwymo i greu cyfleoedd i'n cydweithwyr a'n cwsmeriaid ddefnyddio'r Gymraeg, boed yn siaradwyr rhugl, yn ddysgwyr neu'n rhai sydd newydd ddechrau eu taith iaith. Mae Diwrnod Shwmae Su'mae yn gyfle gwych i ddathlu'r iaith ac annog mwy o bobl i roi cynnig arni."
Mae stori Ed yn cael ei rhannu fel rhan o Ddiwrnod Shwmae Su'mae, sy'n cael ei ddathlu'n flynyddol ar y 15fed o Hydref. Nod y digwyddiad yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb.