Skip to main content

From Victorian era rail signalling to the most modern in Europe

17 Meh 2026

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymuno â sefydliad Campaign for Better Transport i ddathlu un o'r uwchraddiadau mwyaf mewn seilwaith rheilffyrdd yn y DU.

Yn ddiweddar, cafodd rheilffordd Treherbert ei thrawsnewid yn sylweddol fel rhan o brosiect Metro De Cymru, gan esblygu o lein drenau hanesyddol yn y cwm i reilffordd fodern, drydanol a wasanaethir gan drenau newydd sbon.

Tan yn gynnar yn 2023, rheolwyd y signalau ar y lein gan ‘System Gyfnewid Docynnau’ o oes Fictoria. Roedd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i yrwyr adael eu caban i gasglu tocyn corfforol cyn symud y trên i rannau o'r rheilffyrdd sydd ag un trac, a'i ddychwelyd i'r pen arall. Er ei fod yn effeithiol, nid oedd y system yn ateb gofynion rheilffordd fodern, lle mae llawer o drenau yn teithio ar ei hyd.

Wrth i Trafnidiaeth Cymru gyflawni ei fuddsoddiad unwaith mewn cenhedlaeth i drawsnewid rhwydwaith y cymoedd, daeth yn hanfodol disodli'r hen system hon. Caewyd y lein am naw mis i alluogi gwaith peirianyddol helaeth i gael ei wneud, gan gynnwys gosod system signalau digidol modern. Caiff hon bellach ei rheoli o’r depo a Chanolfan Reoli newydd TrC gwerth £1 miliwn yn Ffynnon Taf, sydd wedi'i lleoli ymhellach i lawr y cwm.

Mae cyflwyno seilwaith modern wedi'i gefnogi gan docynnau di-dor talu-wrth-fynd, sydd wedi gweld dros 4.5 miliwn o bobl yn teithio ar hyd rhwydwaith Metro De-ddwyrain Cymru yn unig wrth i deithwyr newid i ddefnyddio system tapio i mewn ac allan am y prisiau gorau.

Mae uwchraddio lein Treherbert yn rhan o gyfres ehangach o welliannau i'r rhanbarth, yn dilyn trydaneiddio 100% o Linellau Craidd y Cymoedd. Gwelwyd y gwaith o osod ceblau pŵer uwchben â'i thrydaneiddio am y tro cyntaf erioed gan ganiatáu i TrC ddechrau rhoi gwasanaethau trên wedi'u trydaneiddio ar waith yn ogystal â'u trenau Dosbarth 756 newydd sbon.

Wedi'i adeiladu gan y gwneuthurwr blaenllaw Stadler a'i gyflwyno gyntaf ar y lein ym mis Chwefror 2025, caiff y trenau Dosbarth 756 Cyflym Light Intercity a'r Trenau Rhanbarthol (FLIRTs) newydd eu pweru gan y gwifrau trydaneiddio uwchben a osodwyd yn ddiweddar, sy'n cludo 25,000 folt o drydan.

Y trenau ‘tri-dull’ trawsnewidiol hyn oedd y trenau cyntaf o’u math i deithwyr yn y DU a all ddefnyddio disel neu fatri ar rannau o drac trên lle nad oes gwifrau uwchben.

Roedd cynllun y trac, dolenni pasio a rhannau newydd o seilwaith rheilffyrdd hefyd yn rhan o'r gwaith moderneiddio, yn ogystal â chreu platfformau hirach, pontydd troed Mynediad i Bawb newydd a gwella’r sgriniau gwybodaeth i deithwyr.

Mae TrC bellach yn dechrau ar y camau paratoi terfynol cyn dechrau rhoi ei drenau-tram newydd sbon, cwbl drydanol cyntaf ar waith ar y lein rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd yr haf hwn, gan gefnogi gwasanaeth Metro gwirioneddol ar gyfer cymunedau ledled y Cymoedd.

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Gweithredu Trafnidiaeth Cymru: “Lein Treherbert yw un o'r leiniau sydd wedi cael ei thrawsnewid fwyaf fel rhan o raglen Metro De Cymru ac rydym yn falch o groesawu cynrychiolwyr o Campaign for Better Transport i Gymru a chynnig cyfle iddynt ymweld â'r lein a chael profiad o deithio ar Fetro ehangach De Cymru.

“Rydym wedi bod ar daith drawsnewidiol iawn gyda rheilffyrdd yng Nghymru ac wedi disodli rhai o'r seilwaith rheilffyrdd hynaf gyda rhai o'r rhai mwyaf modern yn Ewrop. Drwy'r buddsoddiad hwn, rydym hefyd wedi gallu disodli trenau hŷn o'r rhwydwaith a rhoi fflydoedd modern newydd sbon ar waith, yn ogystal â thrydaneiddio ac uwchraddio’r seilwaith.

“Ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd trenau ‘pacer’ yn rhedeg ar y lein hon; heddiw mae cwsmeriaid yn elwa ar wasanaethau cyflymach, mwy dibynadwy a hygyrch sydd wedi'u cynllunio i gyd-fynd a'u hanghenion hwy. Mae'r trawsnewid hwn eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol - gwella amseroedd teithio, cynyddu capasiti, a darparu profiad mwy cyfforddus a chynaliadwy i'r cymunedau a wasanaethwn.

“Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb ymroddiad, cydnerthedd a phroffesiynoldeb ein timau a'n partneriaid anhygoel, sydd wedi gweithio'n ddiflino i ddarparu rhaglen newid mor gymhleth a chadw gwasanaethau i fynd i'n cwsmeriaid.

“Yn bwysicaf oll, mae'r gwelliannau hyn yn helpu i gysylltu pobl ag addysg, swyddi a chyda’i gilydd, gan greu cymunedau cryfach a mwy cynhwysol ledled De Cymru.”

Daw'r ymweliad yn ystod Wythnos Cludiant Gwell (15 -21 Mehefin), dathliad blynyddol Campaign for Better Transport o sut y gall trafnidiaeth ddiogel, hygyrch, fforddiadwy, dibynadwy, integredig a gwyrdd gysylltu cymunedau a dod â phobl ynghyd. Y llynedd, cefnogodd dros 100 o sefydliadau'r wythnos, o'r Adran Drafnidiaeth ac awdurdodau lleol i'r diwydiant trafnidiaeth, cyrff anllywodraethol, busnesau a grwpiau teithwyr, gan hyrwyddo manteision trafnidiaeth gyhoeddus, dulliau teithio a rennir, cerdded, olwynio a beicio.

Dywedodd Michael Solomon Williams, o Campaign for Better Transport: “Pleser yw bod yma yn Ne Cymru i ddathlu'r trawsnewidiad anhygoel hwn. Mae rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus da yn ein helpu i gysylltu â'r bobl rydym yn eu caru, y pethau sydd eu hangen arnom a'r lleoedd sy'n bwysig i ni, gan greu lleoedd ffyniannus a chymunedau cryfach, ac adeiladu dyfodol tecach i bawb.”

Nodiadau i olygyddion


Mae Wythnos Trafnidiaeth Well 2026 yn rhedeg rhwng dydd Llun 15 i ddydd Sul 21 Mehefin. Am fwy o wybodaeth am yr wythnos neu sut i gymryd rhan, ewch i www.bettertransportweek.org.uk 

Mae Campaign for Better Transport yn gweithredu yng Nghymru a Lloegr. Gweledigaeth Campaign for Better Transport yw bod gan bob cymuned fynediad at drafnidiaeth gynaliadwy o ansawdd uchel sy'n diwallu eu hanghenion, yn gwella ansawdd bywyd, yn lleihau anghydraddoldeb, ac yn cefnogi economi fywiog, gynhyrchiol ac un sydd yn cefnogi datgarboneiddio. Mae Campaign for Better Transport Charitable Trust yn elusen gofrestredig (1101929).

Llun (o'r Chwith i'r dde) Sarah, Dylan, Verity a Michael