Skip to main content

Rail service amendments on the Wales and Borders network

14 Awst 2026

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gwneud newidiadau i wasanaethau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau'r wythnos nesaf oherwydd prinder trenau.

Oherwydd bod gweithredu diwydiannol yn digwydd yn un o'i gwmnïau cyflenwi ac oedi o ran gwaith cynnal a chadw, bydd gan TrC lai o drenau ar waith o ddydd Llun 17 Awst.

Er mwyn darparu gwasanaeth cyson i deithwyr, bydd TrC yn gwneud rhai newidiadau i wasanaethau a gynlluniwyd ymlaen llaw o ddydd Llun sef y canlynol:

  • Darparu gwasanaeth bws yn lle trên ar lein Dyffryn Conwy drwy gydol yr wythnos.
  • Tynnu'n ôl y gwasanaethau lleol rhwng Caer a Wrecsam a Crewe a'r Amwythig oherwydd y niferoedd llai a ddisgwylir a fydd yn teithio ar hyd y llwybrau hyn a chan fod gwaith peirianyddol sylweddol yn cael ei wneud am bythefnos. Bydd gwasanaeth bws yn lle trên ar waith.

Bwriedir rhedeg gwasanaethau eraill ar draws y rhwydwaith ond gallant gael eu newid ar fyr rybudd neu bydd llai o le arnynt.

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Gweithredu Trafnidiaeth Cymru: “Gwyddom fod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai anodd i'n cwsmeriaid oherwydd effaith y tywydd poeth ar ein gwasanaethau, yn enwedig ar ein trenau hŷn ac oherwydd bod gweithredu diwydiannol yn digwydd yn un o'r cwmnïau yn ein cadwyn gyflenwi, mae gennym lai o drenau ar gael nag arfer.

“Bydd ein trenau hŷn yn cael eu defnyddio unwaith yn rhagor gan y bydd y tymheredd wedi gostwng erbyn hynny ond o ran yr wythnos nesaf, byddwn yn dal yn brin o drenau a ddim yn gallu darparu gwasanaeth llawn yn ôl yr arfer.

“Rydym yn gwneud newidiadau dros dro i roi cymaint o rybudd â phosibl i gwsmeriaid ac i leihau'r angen i ganslo gwasanaethau ar y diwrnod.

“Hoffem ymddiheuro i gwsmeriaid am yr anghyfleustra y gall hyn ei achosi.”

Ni effeithir ar y gwasanaethau ar gyfer gem bêl-droed Tarian Gymunedol yr FA ar Awst 16 gan fod llai o wasanaethau yn rhedeg ar ddydd Sul na gweddill yr wythnos.

Bydd y gwasanaeth rhwng Caerdydd a Wrecsam drwy Amwythig, Crewe a Chaer nos Lun am 2236 yn dilyn gêm bêl-droed rhwng Caerdydd v Wrecsam yng nghynghrair y Bencampwriaeth hefyd yn parhau.

Mae TrC hefyd yn gweithio gyda Network Rail i ddefnyddio'r cyfle hwn i gyflawni gweithgareddau cynnal a chadw ar y llwybrau.