28 Awst 2025
Yn dilyn ymgysylltu ac ymgynghori helaeth yn gynharach eleni, mae Cyngor Sir Powys wedi ailgynllunio eu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y sir yn llwyr.
O 1 Medi ymlaen, bydd gwasanaeth bws TrawsCymru T12 yn cael ei ddisodli gan ddau wasanaeth newydd - yr X85 rhwng Machynlleth a'r Drenewydd a'r X76 rhwng y Drenewydd a Sant Martin.
Bydd y llwybr T14 rhwng Caerdydd, Aberhonddu a Henffordd hefyd yn cael ei ddisodli gan deithiau lleol rhwng Aberhonddu a Henffordd sydd bellach yn cael eu darparu gan wasanaeth X44 newydd.
Bydd gwasanaeth X76 yn gweithredu rhwng y Drenewydd a Sant Martin.
Bydd teithwyr yn elwa o:
- Gwasanaeth bob awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn
- 1 bws bob 2 awr trwy Aberriw
- 1 bws bob 2 awr trwy Coedybrenin a Threfaldwyn.
- Gwasanaeth newydd ar ddydd Sul rhwng y Drenewydd ac Oswestry trwy Coedybrenin a Threfaldwyn.
- Cysylltiadau gwell yn y Drenewydd i/o wasanaeth TrawsCymru T4 i Landrindod.
Gall teithwyr sy'n dymuno teithio ymlaen i Wrecsam ddefnyddio gwasanaethau Bysiau Arriva Cymru 2/2A o Oswestry i Wrecsam. Bydd y Powys Day Rover a Montgomeryshire Plus Day Rover yn cael eu gwerthu a'u derbyn ar y gwasanaethau 2/2A o'r 31ain o Awst.
Bydd gwasanaeth X85 yn gweithredu rhwng Machynlleth a'r Drenewydd.
Bydd teithwyr yn elwa o:
- 7 taith y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
- Gwasanaeth newydd ar y Sul.
- Teithiau newydd gyda'r nos yn gadael Machynlleth am 19:20 a'r Drenewydd am 20:30.
- Pob taith yn gwasanaethu Llanwnog.
- Cysylltiadau gwell ym Machynlleth, gyda throsglwyddiadau hawdd i/o wasanaethau TrawsCymru T2 i Aberystwyth.
- Trosglwyddiadau hawdd i/o wasanaeth TrawsCymru T4 i Landrindod, Aberhonddu a Merthyr Tudful yn y Drenewydd.
Bydd gwasanaeth X44 yn gweithredu rhwng Aberhonddu a Henffordd
Bydd teithwyr yn elwa o:
- Gwasanaeth newydd ar y Sul
Gellir dod o hyd i fwy o fanylion am y gwasanaethau newydd hyn yma: https://www.cymraeg.traveline.cymru/