Skip to main content

Changes to Barmouth rail replacement service

24 Hyd 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cyhoeddi newidiadau i wasanaeth  bws yn lle trên Abermaw oherwydd gorfod cau ffyrdd ddechrau mis Tachwedd.

Bydd Stryd yr Eglwys yn Abermaw yn cau am wyth wythnos o ddydd Llun 6 Tachwedd er mwyn i Ddŵr Cymru gwblhau atgyweiriadau i garthffos a ddifrodwyd.

Ar hyn o bryd, mae'r ffordd yn rhan o'r llwybr gwasanaeth bws yn lle trên TrC sy'n rhedeg rhwng Machynlleth a Phwllheli tra bod Network Rail yn gwneud gwaith ar Bont Abermaw.

Y prif ddargyfeiriad drwy'r dref fydd drwy'r Cei ond oherwydd pont isel, ni all y bysiau bws yn lle trên mwy o faint sy'n rhedeg y gwasanaeth bws yn lle trên ar hyn o bryd deithio ar hyd y llwybr hwn.

Felly, dyma fydd y newidiadau i'r gwasanaeth bws yn lle trên:

  • Bydd y gwasanaethau lled-gyflym rhwng Machynlleth ac Abermaw yn cael eu gweithredu gan fathau eraill o gerbydau fel y gallant deithio ar hyd llwybr y dargyfeiriad drwy'r Cei. Bydd y daith hon yn cymryd 10 munud yn hirach gan fod y cerbyd a ddefnyddir yn arafach.
  • Bydd gwasanaethau lled-gyflym rhwng Abermaw a Phwllheli yn parhau i gael eu gweithredu gan y bysiau.
  • Bydd cysylltiad bws 10 munud o hyd yn cael ei drefnu ar gyfer Abermaw a bydd cydlynydd bysiau ar gael i gynorthwyo gyda’r cysylltiadau hyn.
  • Bydd yr amser y bydd y bws yn cyrraedd ac yn gadael Machynlleth yn parhau i fod yr un fath a'r amseroedd a ddiwygiwyd ymlaen/yn ôl oddi yno gan mai dyma'r lleoliad i gysylltu â thrên.

Dywedodd Ben Clifford, rheolwr trafnidiaeth ffordd TrC: “Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol a'n darparwyr bysiau i geisio lleihau unrhyw darfu ar ein gwasanaeth bws yn lle trên tra bydd y ffordd hon ar gau.

“Rydym yn hyderus bod y cynllun sydd gennym ar gyfer y cyfnod yn un cadarn a bydd gennym staff ychwanegol ar y llwybr i helpu teithwyr sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn ystod y cyfnod hwn hefyd.

“Oherwydd y newidiadau rydym yn annog teithwyr i wirio am yr wybodaeth deithio ddiweddaraf cyn teithio.”

I gael rhagor o wybodaeth ewch i  Gwybodaeth Teithwyr | TrC

Llwytho i Lawr