20 Tach 2024
Bydd newidiadau mawr i’r amserlenni trenau yn gweld amseroedd trenau’n newid yn sylweddol ym mis Rhagfyr, gan ganiatáu mwy o wasanaethau mewn rhai gorsafoedd, gwasanaethau hwyrach o Gaerdydd Canolog ac Abertawe, trenau yn gadael yr un pryd wedi’r awr bob awr yn ogystal â mwy o drenau newydd.
Mae'r newidiadau'n bosibl oherwydd gallu gwell y fflyd drenau Dosbarth 197 newydd sbon sydd wedi bod yn disodli trenau hŷn dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Fe'i disgrifiwyd fel y "newid mwyaf arwyddocaol i amserlen y brif linell mewn cenhedlaeth" ac mae hi wedi cymryd pedair blynedd i'w ddatblygu.
Bydd angen i gwsmeriaid ar draws De Cymru a Llinell y Mers i'r Amwythig gadw llygad barcud ar yr amseroedd maen nhw'n teithio gan y bydd pob gwasanaeth ar y brif lein yn cael ei ail-amseru.
Daw'r newidiadau i’r amserlen i rym o ddydd Sul, 15 Rhagfyr, ac anogir cwsmeriaid i wirio cyn teithio.
Bydd newidiadau i'r amserlen hefyd yn effeithio ar weithredwyr eraill yng Nghymru a'r Gororau.
Mae rhai newidiadau allweddol o fewn yr amserlen newydd yn cynnwys:
Cryn nifer yn fwy o drenau’n galw ym Mhont-y-clun, Llanharan a Phencoed - cynnydd yng nghyfanswm y gwasanaethau dyddiol o 38 y dydd i 59. Cynnydd o 55%.
- Cynnydd yng ngwasanaethau’r Swanline yn ystod oriau brig i 1 trên yr awr (Baglan, Llansawel, Sgiwen a Llansamlet).
- Dau wasanaeth ychwanegol ar gyfer Aberdaugleddau a gwasanaethau wedi’u gwasgaru’n fwy cyson drwy’r dydd i Borthladd Abergwaun sy'n cael gwared ar y bwlch o chwe awr heb drenau yng nghanol y dydd.
- Mae'r trên olaf o Gaerdydd i Faesteg trwy Ben-y-bont bellach yn hwyrach - am 11:24yh.
- Trên olaf hwyrach o Abertawe i Gaerdydd a fydd yn gadael am 11:30yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.
- Ymadawiadau mwy cyson gyda mwy o drenau yn gadael ar yr un pryd wedi’r awr.
- Bydd gwasanaethau Maesteg tuag at Gaerdydd nawr yn rhedeg drwodd i Lyn Ebwy, yn hytrach na Cheltenham Spa.
- Bydd gwasanaethau Cheltenham Spa yn dechrau ac yn gorffen yng Nghaerdydd Canolog.
- Cyflwyno’r newidiadau yn sgil yr Adolygiad Amserlenni Strategol ar lein y Cambrian a lein Calon Cymru.
- Cyflwyno trenau Dosbarth 756 newydd sbon ar Linellau Craidd y Cymoedd (gan ddechrau fis Tachwedd) a threnau teithio llesol pwrpasol gyda lleoedd ychwanegol ar gyfer beiciau, ailwampiad llawn a lifrai pwrpasol ar gyfer llinell Calon Cymru.
- Rhai newidiadau i'r patrwm galw ar rai gwasanaethau rhwng Caerdydd a Manceinion Piccadilly, i gyflymu rhai trenau a chyflwyno patrwm safonol yn yr amserlen.
- Bydd rhai gwasanaethau lleol rhwng Gorllewin Cymru a Chaerdydd nawr yn defnyddio Platfform 0 yng Nghaerdydd Canolog.
- Bydd Canghennau Gogledd Cymru yn parhau i weld 100% o’u teithiau yn cael eu gwneud ar fflyd newydd a bydd Prif Linell Gogledd Cymru yn gweld dros 80% o’u teithiau yn rhedeg ar fflyd newydd. At ei gilydd, bydd dros 87% o deithiau ar wasanaethau Gogledd Cymru yn cael eu gwneud ar drenau newydd o'r adeg a gyflwynir amserlen Rhagfyr 2024 ymlaen.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Mae hwn yn newid mawr a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gwsmeriaid, a fydd yn elwa o wasanaethau mwy cyson. Mae hyn wedi bod yn bosibl oherwydd ein buddsoddiad o £800m mewn trenau newydd ac mae'n wych gweld y canlyniadau ledled Cymru."
Dywedodd Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru, Colin Lea: “O ran gwasanaethau’r brif linell, dyma'r newid mwyaf arwyddocaol i’r amserlen mewn cenhedlaeth.
"Rydyn ni wedi buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd a nawr yw'r amser i wneud y mwyaf ohonynt.
"Rydym wedi bod yn gweithio tuag at yr amserlen hon ers pedair blynedd bellach a bydd y cysondeb y bydd yn ei ddarparu yn welliant enfawr i lawer o gwsmeriaid.
"Er bod hyn yn newid mawr, mae gwelliannau mawr hefyd wedi'u cynllunio ar gyfer Llinellau Arfordir Gogledd Cymru a’r Cambrian yn ystod y 18 mis nesaf gyda threnau mwy newydd a gwelliannau o ran capasiti."
Dywedodd Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybrau Cymru a’r Gororau Network Rail: "Bydd y newid hwn yn yr amserlen yn arwyddocaol gyda theithiau cyflymach, gwasanaethau trên amlach a mwy o seddi ar draws ein rhwydwaith.
"Mae ein teithwyr yn dibynnu ar wasanaethau i'w cludo i’w cyrchfannau ac mae'r newidiadau hyn i gyd yn rhan o adeiladu rheilffordd well, fwy dibynadwy a chynaliadwy wrth i ni weithio mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru i ddarparu'r gorau i Gymru a'r Gororau."
I weld sut y bydd eich teithiau chi’n newid, ewch i: https://trc.cymru/cynllunio-taith a mewnbynnwch fanylion taith ar gyfer dyddiad ar ôl 15 Rhagfyr.
Nodiadau i olygyddion
- Ar draws diwydiant rheilffyrdd y DU mae dau newid amserlen fawr bob blwyddyn – ym mis Mai/Mehefin ac ym mis Rhagfyr.
- Buddsoddwyd £800 miliwn mewn trenau newydd sbon gydag ychydig dros hanner ohonynt bellach yn gwasanaethu teithwyr.
- Rydym wedi llwyddo cyflwyno 56 o drenau Dosbarth 197 newydd sbon ar y brif lein (bydd y trenau hyn yn cael eu cyflwyno ar lein y Cambrian yn 2025/26).
- Yn ogystal â hyn, o fis Tachwedd 2024, rydym yn dechrau cyflwyno trenau Dosbarth 756 newydd sbon ar Linellau Craidd y Cymoedd.
- Cyflwynir trenau teithio llesol wedi'u hadnewyddu ar lein Calon Cymru yn y cyfnod amserlen hwn, a gall y rhain gludo hyd at 12 beic, a fydd, gobeithio, yn helpu i ddatblygu'r lein ar gyfer teithiau hamdden yn benodol.
- Mae TrC yn rhedeg mwy na 1,000 o wasanaethau teithwyr bob dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
- Roedd y gostyngiad mewn nifer fach o wasanaethau ar lein y Cambrian a lein Calon Cymru yn rhan o Adolygiad Amserlenni Strategol a gynhaliwyd yn gynharach eleni. Mae mwy o fanylion ar gael YMA.
- Diffinnir gwasanaethau prif lein fel yr holl wasanaethau y mae Trafnidiaeth Cymru yn eu rhedeg o gwmpas Caerdydd, ac eithrio Llinellau Craidd y Cymoedd.