Skip to main content

May rail timetable changes - 70% of all Transport for Wales services on new trains

12 Mai 2025

Bydd saith deg y cant o holl wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn cael eu gweithredu ar drenau newydd yn dilyn newidiadau i'r amserlen ym mis Mai eleni.

Bydd trenau tri-modd Dosbarth 756 newydd sbon hefyd yn cael eu cyflwyno ar linellau Coryton a Phenarth yn ddiweddarach yr haf hwn, gan gynyddu ymhellach nifer y trenau newydd sy'n darparu gwasanaethau ar rwydwaith Cymru a'r Gororau.

Anogir cwsmeriaid rheilffordd ledled Cymru a'r Gororau i wirio manylion eu taith cyn teithio gydag amserlen rheilffordd newydd yn dod i rym ddydd Sul 18 Mai.

Dylai teithwyr rheolaidd sy'n gyfarwydd â dal eu gwasanaeth ar yr un pryd bob dydd sicrhau eu bod yn gwybod beth fydd y newidiadau'n ei olygu iddynt.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru, Colin Lea: “Rydyn ni’n falch i gyflenwi sawl newid bach ond pwysig ar draws ein rhwydwaith a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n cwsmeriaid.

“Ymysg y gwelliannau allweddol, bydd ychydig wasanaethau hwyrach ar lwybrau prysur, trenau hirach yn yr haf i gyrchfannau gwyliau yn ogystal â mwy o drenau newydd sbon yn cael eu rhoi ar waith fel rhan o fuddsoddiad gwerth £800 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

“Mae bob amser yn bwysig gwirio manylion eich taith, hyd yn oed os yw’n drên yr ydych yn ei ddal bob dydd, felly peidiwch â chael eich rhoi mewn picil. Mae’r un peth yn berthnasol i unigolion sy’n gwneud cysylltiadau gan fydd gweithredwyr eraill efallai’n gwneud newidiadau a allai effeithio ar eich taith hefyd.”

Platfform cyrraedd newydd yng Ngorsaf Aberdâr 

Ar ddydd Sul 18 Mai bydd ail blatfform newydd yn agor yng ngorsaf Aberdâr, wedi'i leoli ychydig i'r de o brif orsaf Aberdâr ac yn gyfleus gyferbyn â Chanolfan Hamdden Sobell. Bydd hyn yn galluogi mwy o wasanaethau i redeg ar linell Aberdâr unwaith y bydd Metro De Cymru wedi'i gwblhau.

Bydd y platfform newydd ar gyfer cyrraedd yn unig wrth deithio i Aberdâr. Bydd teithwyr sy'n mynd o Aberdâr i orsafoedd i'r de tuag at Gaerdydd yn parhau i ddefnyddio'r platfform gwreiddiol (Platfform 1).

Ochr yn ochr â'r platfform newydd, mae dolen trac newydd wedi'i gosod. Mae'r seilwaith newydd hwn yn hanfodol ar gyfer cynyddu amlder trenau o Aberdâr i Gaerdydd, i ddarparu pedwar trên yr awr pan fydd yr holl drenau tram newydd ar waith.

Llwybrau integredig newydd

O 18 Mai ymlaen, bydd cwsmeriaid yn gallu prynu tocynnau trên a T6 a thrên a T10 cyfun drwy sianeli manwerthu TrC.

T6 (Abertawe i Aberhonddu)

Bydd cwsmeriaid yn gallu teithio i/o Ystradgynlais neu Aberhonddu gan ddefnyddio tocyn cyfun gyda chysylltiadau yng Nghastell-nedd.

T10 (Bangor i Gorwen)

Bydd cwsmeriaid yn gallu teithio i/o Gapel Curig neu Gorwen gan ddefnyddio tocyn cyfun gyda chysylltiadau ym Mangor.

Nodiadau i olygyddion


Gellir dod o hyd i grynodeb o'r newidiadau allweddol yn y newid amserlen trên ym mis Mai 2025 yma https://trc.cymru/statws-gwasanaeth/amserlenni

Llwytho i Lawr