Skip to main content

December timetable change

24 Tach 2023

Fis Rhagfyr eleni, bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaethau a threnau ychwanegol ar draws gogledd a de Cymru ac i Loegr.

Gyda’r amserlen nesaf yn rhedeg o 10 Rhagfyr tan 1 Mehefin y flwyddyn nesaf, mae cynlluniau cyffrous i bron i ddyblu nifer y gwasanaethau ar reilffordd Glynebwy diolch i fuddsoddiad o £70 miliwn.

Bydd gwasanaethau newydd sbon yn dechrau rhedeg rhwng Casnewydd a Thref Glynebwy yn ystod cyfnod yr amserlen o ganlyniad i’r buddsoddiad.

Rydyn ni hefyd yn bwriadu rhedeg gwasanaethau yn ystod y dydd bob 45 munud ar reilffordd Wrecsam Canolog i Bidston, cynnydd o bob awr.

Ac mae ailgyflwyno gwasanaethau bob awr rhwng Caer a Lerpwl drwy faes awyr Lerpwl yn newyddion da i gwsmeriaid yng ngogledd ein rhwydwaith, gan ddarparu cyswllt allweddol arall rhwng y ddwy ddinas.

Mae pum deg o drenau newydd sbon bellach wedi ymuno â fflyd Trafnidiaeth Cymru a bydd mwy na 100 yn cael eu cyflwyno ar y prif rwydwaith a’r rhwydwaith Metro dros y ddwy flynedd nesaf.

Bydd gwasanaeth llawn bob awr rhwng Caerdydd a Cheltenham Spa hefyd yn dechrau’r flwyddyn nesaf wrth i ragor o drenau ddod ar gael.

Dylai cwsmeriaid ar holl wasanaethau Trafnidiaeth Cymru daro golwg ar eu hamseroedd teithio gan y gallai eich amser arferol fod yn wahanol.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad TrC: “Rydyn ni’n falch iawn o gyflwyno gwasanaethau newydd ar lwybrau allweddol yng ngogledd a de ein rhwydwaith yn ystod cyfnod yr amserlen hon.

“Roedd prosiect Glynebwy wedi dangos cydweithio gwych gyda’n partneriaid i bron i ddyblu nifer y gwasanaethau ar y rheilffordd, gyda’r cyswllt newydd i Gasnewydd, ac mae’n agor rhagor o gyfleoedd ar gyfer hamdden, dysgu a chymudo.

“Yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, mae’n rhoi mwy o ddewis a gwell dibynadwyedd ar Lein y Gororau i Bidston, ac mae hi nawr yn bosibl dychwelyd gwasanaethau Lerpwl-Caer yn llawn ar ôl gorffen hyfforddi’r criwiau ar ein trenau newydd.

“Y peth pwysicaf yw cadarnhau manylion eich taith cyn i chi deithio.”

Gall cwsmeriaid weld yr amserlen drwy gynllunio taith YMA

Nodiadau i olygyddion


Mae prosiect Glynebwy yn dilyn benthyciad o £70 miliwn gan Lywodraeth Cymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i ariannu’r gwaith a gyflawnwyd gan Amco Giffen a Siemens ar ran Network Rail.