26 Mai 2026
Mae gwelliannau i'r amserlen yn cael eu cyflwyno i wasanaeth T6 Trafnidiaeth Cymru TrawsCymru i wella prydlondeb a dibynadwyedd cyffredinol y gwasanaeth.
Bydd y newidiadau i'r gwasanaeth T6 sy'n rhedeg rhwng Abertawe ac Aberhonddu yn dod i rym o ddydd Sadwrn 31 Mai 2026 trwy fynd i'r afael â heriau traffig oriau brig y prynhawn a theithiau gyda'r nos.
Mae'r penderfyniad yn dilyn monitro helaeth ar y llwybr, sy'n cysylltu cymunedau allweddol ar draws De a Chanolbarth Cymru. Nododd Trafnidiaeth Cymru y byddai addasiadau wedi'u targedu yn ystod cyfnodau tagfeydd uchel yn gwella prydlondeb cyffredinol y gwasanaeth yn sylweddol.
Dywedodd Mark Jacobs, Uwch Reolwr Cynllunio a Datblygu TrawsCymru, “Rydym wedi gwrando ar adborth cwsmeriaid ac wedi adolygu'n fanwl sut mae'r gwasanaeth T6 yn gweithredu yn ystod adegau prysuraf o'r dydd.
“Trwy wneud newidiadau wedi'u targedu i deithiau prynhawn a gyda'r nos, gallwn leihau effaith tagfeydd a helpu gwasanaethau i fod yn fwy dibynadwy i bawb sy'n dibynnu arnynt.”
Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i adolygu gwasanaethau ar draws rhwydwaith TrawsCymru i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cwsmeriaid ac yn darparu trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy ledled Cymru.
Anogir cwsmeriaid i wirio'r amserlen newydd cyn teithio o 31 Mai ymlaen, gan ddefnyddio gwefan TrawsCymru, neu'r ap ar y ffon.
Gellir dod o hyd i'r amserlenni diweddaraf ar wefan TrawsCymru: https://traws.cymru/cy
Nodiadau i olygyddion
- Mae'r newidiadau'n cynnwys newidiadau i amseroedd gwasanaethau oriau brig y prynhawn a rhai gwasanaethau gyda'r nos. Nid oes unrhyw newidiadau i lwybr cyffredinol y T6.