Skip to main content

December timetable change: customers reminded to ‘check before you travel’

06 Rhag 2019

Mae Trafnidiaeth Cymru’n atgoffa cwsmeriaid i wirio cyn iddyn nhw deithio wrth i baratoadau gael eu gwneud i newid yr amserlen yn y modd mwyaf eithafol mewn cenhedlaeth.

O 15 Rhagfyr, bydd gwasanaethau’r Sul ar sawl rhan o rwydwaith Trafnidiaeth Cymru’n ymdebygu’n fwy i wasanaethau canol wythnos am y tro cyntaf – cynnydd o 40% ers 2018 – a bydd gwasanaeth ar y Sul yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf erioed ar rai llinellau.

Mae sawl gwasanaeth sy’n cysylltu Caerdydd a Chaergybi wedi cael eu newid hefyd er mwyn lleihau amser y daith i bobl sy’n mynd rhwng gogledd a de Cymru.

Bydd teithwyr sy’n mynd gyda Great Western Railway rhwng de Cymru a Llundain hefyd yn elwa o wasanaethau ychwanegol, mwy o le ac amseroedd teithio byrrach – gyda mwy o drenau yn ystod oriau brig.

Er mwyn ei gwneud hi’n bosib cynnal y gwasanaethau newydd a’r amseroedd teithio byrrach hyn, mae sawl gwasanaeth yn cael ei ail-amseru – yn enwedig yn ne Cymru – wrth i drenau redeg rai munudau’n gynt neu’n hwyrach nag arfer, ac amseroedd gwneud cysylltiadau o ganlyniad yn fyrrach neu’n hirach.

Meddai Cyfarwyddwr Darpariaeth i Gwsmeriaid, Bethan Jelfs:

“Rydym ni’n awyddus iawn i adael i’n holl gwsmeriaid wybod am y newidiadau arfaethedig, yn enwedig y bobl sydd wedi bod yn dal yr un gwasanaeth ar yr un amser ers blynyddoedd.

“Peidiwch, da chi, â thybio na chewch chi eich effeithio, a’r peth olaf y dymunem ddigwydd yw eich gweld yn colli eich gwasanaeth neu gyswllt o ychydig funudau.”

Meddai Pennaeth Gweithredu Network Rail Cymru a’r Gororau, Chris Pearce:

“Mae’r newid i’r amserlen yn Rhagfyr yn benllanw buddsoddiad enfawr mewn isadeiledd ar y rheilffyrdd a threnau newydd ar brif lein y Great Western. Ond mae newidiadau’n digwydd ledled ein rhwydwaith a rhaid i deithwyr fod yn barod amdanynt, gan gynnwys gwasanaethau newydd ar y Sul ar rai llinellau, ble na bu gwasanaeth o’r math o’r blaen.

“Bydd y newid amserlen cyfan yn rhoi hwb enfawr i deithwyr a’r economi ar draws de Cymru, ac rydym ni wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’n partneriaid yn Trafnidiaeth Cymru a GWE i annog teithwyr i gynllunio ymlaen llaw.”

Gall  cwsmeriaid ddysgu sut y bydd amserlen Rhagfyr yn effeithio arnyn nhw ar lein neu yn eu swyddfa docynnau leol. Mae copïau caled o’r amserlenni ar gael mewn gorsafoedd allweddol sy’n cael eu staffio o’r penwythnos hwn ymlaen hefyd.

Gellir cael gwybodaeth benodol ar y newid amserlen yma: https://trc.cymru/statws-gwasanaeth/amserlenni

Ar y llaw arall, ceir ein manylion cyswllt yma: https://trc.cymru/cymorth-a-chysylltu/rheilffordd/cysylltu-a-ni

Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan Ymholiadau Rheilffordd ar: www.nationalrail.co.uk

Llwytho i Lawr