Skip to main content

Free rail travel for students during Menai Bridge closure

09 Tach 2022

Gall myfyrwyr o Goleg Llandrillo Menai deithio am ddim ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn ystod y cyfnod y bydd Pont Menai ar gau.

Mae cytundeb rhwng Coleg Llandrillo Menai a TrC yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio eu tocynnau bws addysg 16 oed a hŷn a ddarperir gan Gyngor Sir Ynys Môn i deithio’n ddi-dâl rhwng Caergybi a Bangor.

Bydd hyn yn ddilys o bob gorsaf ar Ynys Môn (Bodorgan, Caergybi, Llanfairpwll, Rhosneigr, Tŷ-Croes a’r Fali) ar gyfer siwrneiau i Fangor ac oddi yno o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno eu tocyn bws addysg 16 oed a hŷn i hawlio’r teithio am ddim a bydd y cynllun yn dod i ben pan fydd Pont Menai yn ailagor yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu'r Canolbarth, Gogledd a Chymru Wledig: “Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Llandrillo Menai i gynnig teithio am ddim i’w myfyrwyr tra bo gwaith cynnal a chadw brys yn cael ei wneud i Bont Menai.

“Mae gennym hefyd nifer o wasanaethau ychwanegol yn galw yn Llanfairpwll i helpu myfyrwyr a chwsmeriaid eraill yn ystod cau’r bont.”

Bydd wyth gwasanaeth ychwanegol yn dod i ben yn Llanfairpwll o ddydd Iau 10 Tachwedd ymlaen. Gall cwsmeriaid chwilio am yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio drwy wefan, ap neu sianeli cyfryngau cymdeithasol TrC.

Nodiadau i olygyddion


Dyma’r gwasanaethau ychwanegol sy’n galw yn Llanfairpwll:

  1. 05:11 Caerdydd Canolog i Gaergybi (yn galw yn Llanfairpwll am 09:46)
  2. 10:41 Caergybi i Lanelli am (11:03)
  3. 09:35 Maes Awyr Manceinion i Gaergybi am (12:12)
  4. 13:07 Caergybi i Faes Awyr Manceinion am (13:34)
  5. 14:34 Caergybi i Gaerdydd Canolog am (14:54)
  6. 15:06 Birmingham International i Gaergybi am (18:54)
  7. 17:30 Maes Awyr Manceinion i Gaergybi am (20:24)
  8. 20:32 Caergybi i Crewe am (20:52)

Llwytho i Lawr