Skip to main content

Enjoy the festivities with half price day tickets on TrawsCymru

23 Tach 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog pobl i arbed arian a mwynhau tymor yr ŵyl drwy gynnig tocynnau hanner pris ar lwybrau TrawsCymru T1, T1C, T2, T3, T3C, T6, T8 a T10 ar ddyddiau Gwener yn y cyfnod cyn y Nadolig, pan gânt eu prynu ar ap TrawsCymru. 

Bydd tocynnau diwrnod* a brynwyd ar ap TrawsCymru ar gyfer unrhyw un o'r llwybrau uchod ar 24 Tachwedd, 1, 8, 15 neu 22 Rhagfyr yn cael eu disgowntio’n awtomatig wrth y ddesg dalu a gellir eu defnyddio i neidio ymlaen ac oddi ar y gwasanaeth hwnnw gymaint o weithiau ag y dymunwch mewn dydd.  Bydd 1 tocyn diwrnod hanner pris ar gael i gwsmeriaid ar y llwybrau uchod ar bob diwrnod o’r arwerthiant. 

Teithiwch ar ein gwasanaeth T1 rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth trwy’r dydd am dim ond £3.50 neu mwynhewch ddiwrnod o siopa Nadolig yn Abertawe neu Aberhonddu gyda’n gwasanaeth T6 am £4 yn unig. Edrychwch ar ein prisiau gwych eraill isod neu cynlluniwch eich diwrnod allan gan ddefnyddio ein teclyn cynllunio taith

Gellir defnyddio tocynnau unrhyw bryd o fewn blwyddyn i’w prynu, felly manteisiwch ar y cynnig gwych hwn a chynlluniwch eich taith nawr. 

Prisiau tocynnau dydd – gostyngiad o 50% 

T1 
Caerfyrddin – Aberystwyth trwy Llanbedr Pont Steffan a Thregaron 
£3.50 oedolion, £2.32 plentyn a fyngherdynteithio 

Llanbedr Pont Steffan – Aberystwyth 
£2.87 oedolion, £1.90 plentyn a fyngherdynteithio 

Llanbedr Pont Steffan – Caerfyrddin 
£2.87 oedolion, £1.90 plentyn a fyngherdynteithio 

T1C 
Caerdydd – Aberystwyth drwy Fae Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerfyrddin, Llandysul ac Aberaeron 
£6.50 oedolion, £3.65 plentyn a fyngherdynteithio 

T2 
Aberystwyth – Bangor drwy Fachynlleth, Dolgellau, Porthmadog a Chaernarfon 
£3 oedolion, £1.70 plentyn a fyngherdynteithio 

T3/T3C 
Abermaw – Wrecsam drwy Ddolgellau, Y Bala, Corwen, Berwyn, Llangollen a Rhiwabon 
£3 oedolion, £1.70 plentyn a fyngherdynteithio 

T6 
Abertawe – Aberhonddu drwy Gastell-nedd, Ystradgynlais a Phontsenni 
£4 oedolion, £2 plentyn a fyngherdynteithio 

T8 
Corwen – Caer trwy Rhuthun a’r Wyddgrug 
£2.90 oedolion, £1.60 plentyn a fyngherdynteithio 

T10 
Bangor – Corwen trwy Betws-y-Coed 
£2.85 oedolion, £1.90 plentyn a fyngherdynteithio 

Nodiadau i olygyddion


*Dim ond yn ddilys ar docynnau diwrnod ap ar lwybrau T1, T1C, T2, T3, T3C, T6, T8 a T10. Rhaid ei brynu ar 24 Tachwedd neu 1, 8, 15, 22 Rhagfyr. 1 tocyn hanner pris i gwsmeriaid ar y diwrnodau uchod. Rhaid ei ddefnyddio o fewn blwyddyn.