Skip to main content

More services to run from Cardiff Bus Interchange

30 Awst 2024

Bydd 14 gwasanaeth bws ychwanegol yn rhedeg o Gyfnewidfa Fysiau newydd Caerdydd o ddydd Sul 1 Medi.

Bydd 14 gwasanaeth bws ychwanegol yn rhedeg o Gyfnewidfa Fysiau newydd Caerdydd o ddydd Sul 1 Medi.

Bydd Bws Caerdydd yn cyflwyno mwy o wasanaethau i deithio i rannau eraill o’r ddinas, tra bydd bws Casnewydd yn ymuno â Bws Caerdydd a Stagecoach i redeg gwasanaethau o’r gyfnewidfa a agorwyd yn ddiweddar. 

Bydd y gwasanaethau ychwanegol yn fwy na dyblu nifer y cyrchfannau sydd ar gael yn y gyfnewidfa, yn ogystal â chynyddu nifer y bysiau sy'n dod i mewn i'r gyfnewidfa o 1,830 yr wythnos i 3,476 yr wythnos.

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhagweld y bydd nifer y cwsmeriaid yn cynyddu o 2,000 y dydd i rhwng 8,000 a 9,000 y dydd.

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant TrC:

“Rydym yn falch y bydd mwy o fysiau yn rhedeg o’r gyfnewidfa fysiau ym mis Medi, gan gynnwys rhai gwasanaethau prysur yng Nghaerdydd a gwasanaeth rhwng Caerdydd a Chasnewydd.

“Ers agor ddiwedd mis Mehefin, rydym wedi parhau i weld cynnydd yn nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r gyfnewidfa, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu mwy fyth o fis Medi.

“Bydd y gwasanaethau newydd hyn yn darparu mwy o opsiynau ac yn cynnig gwell cysylltiadau i gwsmeriaid sy’n teithio o amgylch Caerdydd a’r rhanbarth.”

Gall cwsmeriaid ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau ychwanegol ar wefan TrC.

Bydd amseroedd gadael ar gyfer y newidiadau i wasanaethau ar gael ar wefannau Bws Caerdydd, Stagecoach a Bws Casnewydd o 1 Medi.