05 Medi 2023
Mae trenau bellach yn rhedeg gyda'r nos yng nghanol yr wythnos ar gyfer teithwyr rhwng Caerdydd a Phontypridd wrth i waith Metro De Cymru barhau i fynd rhagddo.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd fel rhan o fuddsoddiad gwerth biliynau o bunnoedd i drydaneiddio'r llinell a darparu Metro De Cymru.
Wrth foderneiddio'r seilwaith rheilffyrdd, mae rhannau o'r rheilffordd ar gau ar adegau penodol ac mae’r gwasanaeth bws yn lle trên yn helpu i gadw pobl i symud.
Fodd bynnag, o fis Medi, bydd TrC yn ailgyflwyno gwasanaethau rheilffordd rhwng Caerdydd a Phontypridd yn hytrach na'r gwasanaeth bws yn lle trên sydd wedi bod ar waith gyda'r nos o ddydd Llun i ddydd Iau ers y llynedd.
Dywedodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith TrC: “Rydym yn gwneud cynnydd da o ran adeiladu Metro De Cymru ac rydym bellach mewn sefyllfa lle bydd mwy o wasanaethau rheilffordd yn rhedeg gyda'r nos, a llai o wasanaethau bws yn lle trên yn rhedeg rhwng Caerdydd a Phontypridd.
“Mae’r gwaith yn parhau wrth gwrs, ond ar y rhan hon o'r rheilffordd, rydym wedi cwblhau ein gwaith seilwaith trydaneiddio, mae'r gwifrau wedi'u gosod ynghyd â'n signalau newydd a bellach, mae rhan gyntaf o'r trac yn fyw.
“O weld mwy o wasanaethau rheilffyrdd yn cael eu hailgyflwyno, bydd hyn yn gwella’r gwasanaethau i'r cwsmeriaid hynny sy'n defnyddio'r lein boblogaidd hon rhwng Caerdydd a Phontypridd yn fawr, ac rydym yn edrych ymlaen at eu croesawu yn ôl ar ein gwasanaethau.
“Hoffwn ddiolch i'n holl gwsmeriaid am eu hamynedd parhaus yn ystod y cyfnod hwn o darfu ac mae'n bwysig pwysleisio bod ein timau yn symud ymlaen yn gyflym gyda’r gwaith o adeiladu Metro De Cymru.”
Mae’r gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach, amlach rhwng Caerdydd a Blaenau’r Cymoedd.
Nodiadau i olygyddion
Er y bydd gwasanaethau rheilffyrdd yn dychwelyd i redeg ganol yr wythnos rhwng Caerdydd a Phontypridd, bydd gwaith peirianyddol yn parhau ledled y rhwydwaith, o bryd i'w gilydd ar y lein hon hefyd, ac felly dylai pobl barhau i wirio cyn teithio.