Skip to main content

More people walking, cycling and wheeling in Wales

12 Gor 2024

Mae Trafnidiaeth Cymru ar genhadaeth i gael mwy o bobl i gerdded, beicio a olwynio o gwmpas Cymru ac wedi lansio pecyn cymorth hyrwyddo i helpu.

Mae ystadegau diweddar yn dangos bod 58% o oedolion yn cerdded deg munud a 6% yn beicio unwaith yr wythnos neu fwy i gyrraedd rhywle yng Nghymru. Byddai’n well gan 78% o blant ysgol gynradd deithio’n llesol i gyrraedd yr ysgol – fodd bynnag roedd 51% fel arfer yn teithio mewn car.

Er mwyn helpu i hybu'r ffigurau hyn ac annog mwy i deithio'n gynaliadwy pan allant, Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio pecyn cymorth  sy’n hyrwyddo cerdded, teithio ar olwynion a beicio, wedi’i ddatblygu ar y cyd ag awdurdodau lleol a’i greu ar eu cyfer. 

Mae'r pecyn cymorth yn galluogi awdurdodau lleol i gael mynediad at ddeunyddiau hyrwyddo newydd ac mae'n cynnwys banc o dros 500 o ddelweddau o bobl yn cerdded, teithio ar olwynion a beicio yng Nghymru. Ei nod yw helpu awdurdodau lleol i hyrwyddo llwybrau cerdded a beicio yn eu hardal, gan helpu mwy o bobl i fanteisio arnynt. 

Mae ymchwil yn dangos bod y delweddau a'r iaith a ddefnyddir wrth siarad â phobl am gerdded a beicio yn bwysig. Trwy ddangos amrywiaeth eang o brofiadau beicio bob dydd, nod y pecyn cymorth yw herio canfyddiadau pobl ynghylch y math o berson mae’n rhaid bod er mwyn gallu beicio a dangos ei fod yn hawdd ac ar gael i bawb. 

Mae'n cynnwys syniadau ar gyfer negeseuon allweddol sy'n gweithio orau gyda gwahanol grwpiau ac enghreifftiau o ymgyrchoedd sydd wedi profi’n effeithiol, gan gynnwys astudiaethau achos o gynlluniau cerdded a beicio eraill yng Nghymru. 

Dywedodd Nicola Grima, Arweinydd Cynllun Cyflawni Teithio Llesol Trafnidiaeth Cymru:  

"Mae gan Gymru isadeiledd cerdded a beicio gwych. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl ei ddefnyddio. Dyna pam rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i roi'r offer iddyn nhw allu mynd ati i roi gwybod i bobl yn eu cymunedau am y llwybrau hyn a’u hannog i’w defnyddio." 

Mae un astudiaeth achos sydd wedi'i chynnwys yn y pecyn cymorth yn edrych ar seilwaith a gyflwynwyd ar Lwybr Beicio Cenedlaethol 5 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. 

Mae un arall yn tynnu sylw at y gwelliannau a wnaed i bont Gladstone a Chogan ym Mro Morgannwg, a ariennir hefyd gan Lywodraeth Cymru. 

Nodiadau i olygyddion


  • Ers 2021, mae Trafnidiaeth Cymru wedi rheoli'r Gronfa Teithio Llesol, ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r cyllid ar gyfer teithio llesol yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol ers cyhoeddi'r gronfa yn 2021. Yn y flwyddyn ariannol 23/24 dosbarthwyd £50m o gyllid gan y Gronfa Teithio Llesol. 
  • Gallai cynyddu nifer y bobl sy’n cerdded, teithio ar olwynion a beicio yng Nghymru arwain at welliannau mewn iechyd pobl, mwy o annibyniaeth i blant a gallai arbed arian i bobl y byddent fel arall wedi’i wario ar betrol. 

Llwytho i Lawr