19 Maw 2025
Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch i gyhoeddi gwelliannau mawr i linell trên Cwm Rhymni fel rhan o gyfnod nesaf Metro De Cymru.
Gan ddechrau ar ddiwedd mis Mawrth 2025, bydd TrC yn cynnal gwaith peirianneg dros 8 mis a fydd yn trawsnewid a thrydaneiddio dros 15km o linell trên.
Cyflwynwyd trenau newydd sbon (Trenau Dosbarth 231) i linell Cwm Rhymni yn 2023 fel rhan o fuddsoddiad £800 miliwn TrC mewn trenau newydd sbon ledled Cymru.
Bydd y gwelliannau seilwaith pellach hyn yn ein galluogi ni i gyflwyno trenau trydan (trenau Dosbarth 756) i’r llinell, gan ddarparu trafnidiaeth gyflymach, wyrddach a mwy hygyrch i gymunedau de Cymru.
Er mwyn inni gyflawni’r rhaglen waith ddwys hon dros 8 mis mewn ffordd ddiogel, bydd yna adegau lle fydd y llinell ar gau a bydd gwasanaeth bws yn lle trên yn gweithredu i alluogi cwsmeriaid i barhau i deithio. Mae hyn yn cynnwys dau gyfnod cau a fydd yn para 6 wythnos rhwng 12 Ebrill a 23 Mai a 19 Gorffennaf a 31 Awst.
Mae TrC yn annog ein holl gwsmeriaid i wirio llinell Rhymni cyn teithio.
Dywedodd Prif Swyddog Seilwaith TrC, Dan Tipper: “Rydyn ni’n gyffrous i ddechrau ar ein rhaglen drawsnewidiol i uwchraddio llinell Rhymni fel rhan o brosiect Metro De Cymru i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yn ne Cymru.
Byddwn yn cynnal gwelliannau seilwaith pwysig ar y llinell, gan gynnwys gosod Cyfarpar Llinellau Uwchben i drydaneiddio’r llinell ac uwchraddio gorsafoedd trên lleol.
Rydyn ni’n gwerthfawrogi amynedd ein cwsmeriaid a chymdogion sy’n byw yn agos at y rheilffordd wrth inni wneud yr uwchraddiadau hyn. Rydyn ni’n deall bod cau’r rheilffordd a gwneud gwaith peirianneg yn gallu tarfu ar y rheini sy’n dibynnu ar ein gwasanaethau a’r rheini sy’n byw yn agos at y traciau – hoffem annog ein holl gwsmeriaid i wirio cyn teithio yn ystod y cyfnod hwn.”
Am wybodaeth bellach ar gyfnodau cau’r rheilffordd ar y gweill, ewch i: Gwaith Peirianyddol | TrC
Nodiadau i olygyddion
Bydd gwaith seilwaith Cwm Rhymni’n cynnwys:
- Trydaneiddio: Gosod Cyfarpar Llinell Uwchben (OLE) i drydaneiddio’r llinell.
- Gwella Seilwaith: Uwchraddio ffensys o amgylch y rheilffordd a thrin llystyfiant sydd wedi tyfu’n wyllt.
- Uwchraddio Traciau a Signalau: Uwchraddio cynhwysfawr ar draws y llinell, gan gynnwys gwneud traciau’n is ar gyfer trydaneiddio.
- Gwelliannau i orsafoedd: Uwchraddio gorsaf Rhymni, gan gynnwys gosod seidins gwell yn yr orsaf lle caiff trenau newydd eu storio.
Cyfnodau Cau’r Rheilffordd a Gwaith Peirianneg a gynlluniwyd
I hwyluso’r gwaith uwchraddio helaeth hwn ar dros 15km o’r rheilffordd rhwng Caerffili a Rhymni, cynlluniwyd nifer o gyfnodau cau’r rheilffordd rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2025.
Bydd cau’r llinell rhwng Rhymni a Chaerffili yn galluogi timau i weithio 24/7, gan gyflawni gwaith trawsnewid yn fwy effeithiol trwy gydol y rhaglen 8 mis.
Yn bwysicach byth, mae’r amserlen hon yn galluogi ychydig o’r gwaith mwyaf swnllyd, sy’n cynnwys gosod seilbyst, i ddigwydd yn ystod y dydd mewn lleoliadau penodol.
Bydd cyfnodau cau llinell Rhymni yn digwydd yn achlysurol rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2025, gan gynnwys:
- Gwaith peirianneg canol wythnos gyda’r nos: o 7pm o ddydd Llun tan ddydd Iau.
- Cau ar y penwythnos: Sawl cyfnod cau ddydd Sadwrn a Sul drwy gydol y flwyddyn.
- Cyfnodau Cau Hirach: Bydd dau gyfnod cau a fydd yn para 6 wythnos rhwng 12 Ebrill a 23 Mai a 19 Gorffennaf a 31 Awst.
- Cyfnod cau dros bythefnos: Bydd un cyfnod cau a fydd yn para pythefnos o 18 Hydref.
Ceir rhestr lawn o gyfnodau cau’r rheilffordd a gynlluniwyd ar linell uchaf Rhymni fesul mis ar wefan TrC.
Oherwydd sawl cyfnod cau’r rheilffordd a gynlluniwyd, mae TrC yn argymell bod ei holl gwsmeriaid sy’n teithio ar draws linell Rhymni yn gwirio cyn teithio gan ddefnyddio teclyn gwirio taith TrC.
Parhau i deithio
Yn ystod y cyfnodau cau’r rheilffordd hyn, bydd TrC yn darparu gwasanaeth bws i gyd-fynd ag amserlenni trên, gan sicrhau cysylltiadau di-dor rhwng bysiau a threnau yng ngorsaf Caerffili.
Bydd bysus yn rhedeg bob 15 munud rhwng Caerffili a Bargod, a phob 30 munud rhwng Bargod a Rhymni. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am safleoedd bysiau ar gyfer gwasanaethau bws yn lle trên ar wefan TrC.
Bydd gwasanaethau trên yn rhedeg fel yr arfer ar gyfer digwyddiadau a chyngherddau mawr yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.