Skip to main content

Women in Rail appoints new chair

11 Medi 2023

Mae’n bleser gan Menywod Mewn Trafnidiaeth gyhoeddi mai Marie Daly yw Cadeirydd newydd yr elusen.

Mae Marie wedi gweithio yn y sector rheilffyrdd ers dros 13 mlynedd a’i swydd bresennol yw Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru.

Dywedodd Marie, a ddechreuodd swydd y Cadeirydd yn swyddogol heddiw (11 Medi): “Rwyf wrth fy modd ac yn falch iawn o gael y cyfle i fod wrth galon sefydliad mor uchel ei barch a gwerthfawr, a diolch i’r Ymddiriedolwyr am roi eu hyder yn ynof fi. 

“Cafodd Menywod Mewn Trafnidiaeth ei sefydlu i wella cydbwysedd rhwng y rhywiau, amrywiaeth a chynhwysiant yn niwydiant rheilffyrdd y DU, ac rydyn ni’n parhau i weithio i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth menywod ar draws pob lefel o’r sbectrwm gyrfa.

"Rwy'n edrych ymlaen at lywio a dylanwadu ymhellach ar ein gwaith pwysig, yn enwedig mewn cyfnod mor heriol, ond cyffrous, i'r sector."

Wrth groesawu Marie, dywedodd Is-gadeirydd Menywod Mewn Trafnidiaeth, Shona Clive: “Mae Menywod Mewn Trafnidiaeth yn parhau i fod yn fywiog a blaengar er lles y sector rheilffyrdd, ac rwy’n edrych ymlaen at gefnogi Marie yn ei rôl newydd. 

Dydy Menywod mewn Trafnidiaeth ddim ar gyfer menywod yn unig – mae Menywod mewn Trafnidiaeth ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd i gyd. Drwy groesawu amrywiaeth a chynhwysiant, rydyn ni’n creu dyfodol cryfach i’r rheilffyrdd, lle mae gan bawb gyfle cyfartal i ffynnu.  Ymunwch â ni ar y daith gyffrous hon wrth i ni ail-lunio’r diwydiant rheilffyrdd a’i wneud yn gymuned fwy bywiog a chynhwysol i bawb.”

Sefydlwyd Menywod mewn Trafnidiaeth yn 2012, i wella amrywiaeth yn niwydiant rheilffyrdd y DU drwy ddarparu cyfleoedd rhwydweithio a chefnogaeth i bob menyw yn y sector, annog cwmnïau a rhanddeiliaid i fabwysiadu amrywiaeth fel strategaeth fusnes, a llunio mentrau sydd â’r nod o edrych ar ddewis gyrfa ym myd rheilffyrdd fel dewis deniadol i bobl ifanc.

Nodiadau i olygyddion


Ychydig o wybodaeth am Menywod Mewn Trafnidiaeth: 

Sefydlwyd Menywod mewn Trafnidiaeth yn 2012, i wella amrywiaeth yn niwydiant rheilffyrdd y DU drwy ddarparu cyfleoedd rhwydweithio a chefnogaeth i bob menyw yn y sector, annog cwmnïau a rhanddeiliaid i fabwysiadu amrywiaeth fel strategaeth fusnes, a llunio mentrau sydd â’r nod o edrych ar ddewis gyrfa ym myd rheilffyrdd fel dewis deniadol i bobl ifanc.

I gael mwy o wybodaeth am Fenywod Mewn Trafnidiaeth ewch i: www.womeninrail.org/   

Cyswllt yn y wasg:

Vicky Binley 

Ffôn: +44(0) 1780 432930 

Llwytho i Lawr