Skip to main content

Ebbw Vale Social Enterprise awarded £2.5 Million contract by Transport for Wales

14 Rhag 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dyfarnu contract gwerth £2.5 miliwn i Elite Clothing Solutions am bedair blynedd i wneud a darparu gwisgoedd staff. 

Wedi'i leoli yng Nglynebwy, mae Elite Clothing Solutions yn fenter gymdeithasol sy'n cyflogi pobl leol, cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi ac yn hyfforddi pobl ag anableddau neu'r rhai sydd dan anfantais. 

Gyda dros 2,000 o staff gweithredol angen gwisg ar gyfer y gwaith, bydd y contract hirdymor a ddyfernir gan TrC yn cefnogi'r economi gylchol yng Nghymru.  Bydd hefyd yn helpu'r rhai sydd ag anfantais i ennill sgiliau galwedigaethol hanfodol a gwella eu lles cyffredinol. 

Mae Elite wedi sefydlu consortiwm o fusnesau yng Nghymru i'w cefnogi yn y gadwyn gyflenwi sy’n cynnwys Brodwaith Cyf yn Llangefni, Menter Gwnïo Treorci yn y Rhondda a Fashion Enter yn y Drenewydd. 

Dywedodd Andrea Wayman, Prif Swyddog Gweithredol y Fenter: 

“Mae llwyddo i ennill y contract i wneud gwisgoedd staff Trafnidiaeth Cymru yn gyflawniad a hanner.  Bydd y gwisgoedd gwaith hyn yn cael eu gwneud ar ffurf consortiwm yng Nghymru, popeth o'r gwaith dylunio a gweithgynhyrchu i frandio. 

“Yn economaidd, mae'n cynnal ac yn creu swyddi, prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi i alluogi cyflogaeth gynhwysol, ar gyfer pobl anabl a difreintiedig, gweithwyr hŷn, pobl ifanc a rhieni sengl.” 

Dywedodd Scott Waddington, Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru: 

“Hoffwn longyfarch Elite Clothing Solutions ar ennill y contract eithriadol o fuddiol hwn a fydd yn darparu hyd yn oed mwy o swyddi i bobl leol.  

“Rydym yn gwella'r rhwydwaith trafnidiaeth ledled Cymru ac mae'n hanfodol ein bod, trwy ein buddsoddiad, yn darparu cyfleoedd a buddion i'r cymunedau lleol yr ydym yn eu gwasanaethu.  

“Mae rhai o'n trenau newydd wedi'u gwneud yng Nghymru, gan bobl Cymru a bellach, mae’r un yn wir am y sefydliad sy’n gyfrifol am wneud gwisgoedd ein staff.  Mae TrC yn sefydliad dielw ac mae'n wych cefnogi'r cydweithrediad hwn o fentrau cymdeithasol eraill a chael effaith gymdeithasol ac amgylcheddol gadarnhaol." 

Dywedodd Sarah Jane Waith, Pennaeth Cadwyn Gyflenwi Trafnidiaeth Cymru: 

“Trwy ddull caffael cynaliadwy, rydym yn falch iawn o weithio gydag Elite a'u partneriaid consortiwm i gynyddu gwerth economaidd a chymdeithasol i Gymru ac ailfywiogi'r diwydiant tecstilau yng Nghymru”