16 Chw 2026
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi datgelu menter gelf gymunedol newydd yng ngorsaf Bae Colwyn, gan drawsnewid hen wal ar blatfform 2 gyda ddathliad o greadigrwydd a chwaraeon lleol.
Mae'r prosiect yn tynnu sylw at Rygbi Gogledd Cymru (RGC) fel y diweddaraf mewn cyfres o fentrau celf dan arweiniad y gymuned a gynlluniwyd i wella amgylchedd yr orsaf i deithwyr a'r gymuned leol.
Ym mis Awst 2025, cynhaliwyd gweithdy creadigol ym Mharc Eirias, lle cyfnewidiodd chwaraewyr a hyfforddwyr eu hyfforddiant rygbi am baent chwistrellu a datblygu ystod o ddyluniadau sy'n adlewyrchu treftadaeth ac angerdd rygbi yng Ngogledd Cymru.
Gosodwyd y murlun yn fedrus gan Alan Griffiths a John Evans, gwnaeth eu hymroddiad helpu droi'r weledigaeth wreiddiol yn ddarn gorffenedig trawiadol ar Blatfform 2.
Dywedodd yr Hwylusydd Dysgu ac Ymgysylltu Sarah Jones: "Mae gwaith celf yr orsaf wedi'i greu gydag ymdeimlad gwirioneddol o falchder, gan gysylltu pobl, chwaraeon a thrafnidiaeth.
"Rydyn ni'n angerddol am gysylltu cymunedau â'u rheilffordd. Mae'r gwaith celf diweddaraf wedi'i greu gyda phobl ifanc sy'n ymwneud â chwaraeon ac yn ymdrech tîm go iawn."
Ychwanegodd Rheolwr Cyffredinol RGC, Alun Pritchard: "Rydym yn hynod falch o weld murlun Rygbi Gogledd Cymru yng ngorsaf drenau Bae Colwyn. Mae'n ddathliad gwych o'n gwreiddiau ym Mae Colwyn ac yn foment falch i bob un o’r tîm ehangach.
"Gobeithio bydd nifer fawr o gefnogwyr yn cael y cyfle i weld y gwaith celf yn yr orsaf pan maent yn cyrraedd Bae Colwyn.
"Mae'r orsaf drenau yn ganolbwynt i'n cefnogwyr wrth iddyn nhw deithio o bob cwr o ogledd Cymru, gan wneud yr arddangosfa hon yn fwy arbennig byth."
Mae'r prosiect hwn yn enghraifft ardderchog o sut y gall cydweithio rhwng artistiaid, grwpiau cymunedol a sefydliadau lleol wella mannau cyhoeddus a chreu rhywbeth gwirioneddol unigryw i'r ardal.
Nodiadau i olygyddion
- Dan arweiniad Melanie Lawton, Arweinydd Strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru, daeth y fenter â'r artist graffiti lleol Andy “DIME One” ac aelodau o Academi Hŷn RGC ynghyd.
- Mae Rygbi Gogledd Cymru (RGC) yn cynrychioli Rhanbarth Datblygu Gogledd Cymru yng nghystadleuaeth rygbi domestig flaenllaw Cymru, Super Rygbi Cymru.
- Hoffai TrC estyn eu diolch i Andy "DIME One" am ei ddawn greadigol, i Alan Griffiths a John Evans am eu hamynedd a'u crefftwaith ac i holl staff gorsaf Bae Colwyn am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth drwy gydol y gwaith.